Priordy Sanclêr
priordy yn Sir Caernarfon
Priordy canoloesol a godwyd ar ganol y 12g yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin oedd Priordy Sanclêr.
Math | priordy |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Sefydlwyd Priordy Sanclêr rhywbryd rhwng 1147 a 1184 fel priordy cell yn perthyn i Urdd y Cluniaid. Roedd dan awdurdod Abaty St Martin des Champs ym Mharis. Cyfeirir at ei fynachod fel rhai yn dilyn bywyd afreolus mewn dogfen o 1279. Cafodd yr abaty ei ddiddymu ym 1414.
Nid oes llawer o'r abaty i'w weld heddiw ond mae Eglwys Sanclêr yn cynnwys bwa trawiadol sy'n dyddio o gyfnod y priordy ac mae'n debyg ei fod yn sefyll ar ei safle. I'r de o'r eglwys ceir safle adeiladau preswyl y priordy ond does dim byd wedi goroesi.
Ffynhonnell
golygu- Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992), tud. 95.