Priordy
Mynachlog Gristnogol dan reolaeth prior yw priordy. Cymuned fechan o fynachod sy'n byw mewn priordy, sydd fel rheol yn gangen o gymuned fwy sy'n byw mewn abaty dan reolaeth abad. Ystyr lythrennol y gair 'priordy' yw "Tŷ'r Prior" mewn cyferbyniad â "Thŷ'r Abad", sef yr abaty.
Er bod prioresau i'w cael yn yr eglwys Gristnogol nid yw'n arfer galw eu tai yn briordai.
Priordai Cymru
golyguRoedd yna sawl priordy yng Nghymru. Dyma'r pwysicaf:
- Priordy Penmon ar Ynys Môn
- Priordy Beddgelert
- Priordy'r Fenni
- Priordy Aberhonddu
- Priordy Ynys Bŷr
- Priordy Ewenni
- Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yng Nghaerfyrddin
- Priordy Cas-Gwent
- Priordy Gallt Eurin, Sir Fynwy
- Priordy Hwlffordd
- Priordy Llanddewi Nant Hodni, yn y Mynyddoedd Duon
- Priordy Trefynwy
- Priordy Penfro
- Priordy Pyll, Sir Benfro
- Priordy Wysg