Rhaglen ddogfen a gynhyrchwyd ar gyfer S4C oedd Procar Poeth. Dilynodd y rhaglenni hynt a helynt criw o Gymry ifanc wrth iddynt dreulio mis o wyliau yn Ibiza yn 2000 a 2002. Cynhyrchwyd dwy gyfres gan gwmni teledu Concordia[1]. Yn ddiweddarach, cynhyrchwyd rhaglen tebyg o'r enw Procar Pinc a ddilynodd griw o Gymry hoyw wrth iddynt ymweld â Mardi Gras Lesbiaid a Hoywon Sydney, Awstralia.

Natur ddadleuol y rhaglenni golygu

Beirniadwyd y rhaglen gan rai pobl ar ôl i un o'r bobl ifanc, Linda Lucas, berfformio gweithred rywiol ar ddieithryn tu allan i far "Delilah's Welsh Bar" yn San Antonio.[2] Wedi'r digwyddiad, honodd Lucas ei bod mor feddw nad oedd yn medru cofio dim byd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Erthygl Wales on Sunday 28-04-2002. Adalwyd ar 02-05-2010
  2. MY DRUNKEN TV SEX SHAME; Red-faced party girl's apology for Ibiza antics FindArticles.com Lydia Whitfield. 21-04-2002. Adalwyd ar 02-05-2010