Mae Protocol Nagoya ar Fynediad a Rhannu Buddiannau (ABS) yn gytundeb a luniwyd yn 2010 ac sy'n atodiad i Gonfensiwn 1992 ar Amrywiaeth Fiolegol (Convention on Biological Diversity; CBD). Ei nod yw gweithredu un o dri amcan y CBD: rhannu'n deg a chyfiawn buddion sy'n deillio o ddefnyddio adnoddau genetig, a thrwy hynny gyfrannu at gadwraeth a defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth. Mae'n ymrywmo partion i gymryd mesurau mewn perthynas â mynediad at adnoddau genetig, rhannu buddion a chydymffurfio.

Protocol Nagoya
Glas: wedi arwyddo; gwyrdd: wedi llofnodi ond heb ei gadarnhau.
Enghraifft o'r canlynolprotocol, cytundeb amgylcheddol rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dyddiad12 Tachwedd 2014 Edit this on Wikidata
Rhan oY Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol Edit this on Wikidata
LleoliadNagoya Edit this on Wikidata

Mabwysiadwyd y protocol ar 29 Hydref 2010 yn Nagoya, Japan a daeth i rym ar 12 Hydref 2014. Erbyn Ebrill 2022 roedd wedi'i gadarnhau gan 137 o bleidiau, sy'n cynnwys 136 o aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae pryderon wedi'u mynegi y gallai'r fiwrocratiaeth a'r ddeddfwriaeth ychwanegol fod yn niweidiol i'r broses o fonitro a chasglu bioamrywiaeth, i gadwraeth, i'r ymateb rhyngwladol i glefydau heintus, ac i ymchwil.[1]

Nod a chwmpas golygu

Mae Protocol Nagoya yn berthnasol i adnoddau genetig a gwmpesir gan y CBD, ac i'r buddion sy'n deillio o'u defnydd. Mae'r protocol hefyd yn ymdrin â gwybodaeth draddodiadol sy'n gysylltiedig.

Ei nod yw gweithredu un o dri amcan y CBD: rhannu'n deg a chyfiawn buddion sy'n deillio o ddefnyddio adnoddau genetig, a thrwy hynny gyfrannu at gadwraeth a defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth.[2]

Rhwymedigaethau golygu

Mae Protocol Nagoya yn nodi rhwymedigaethau ar ei bartïon contract i gymryd mesurau mewn perthynas â mynediad at adnoddau genetig, rhannu buddion a chydymffurfiaeth.

Rhwymedigaethau mynediad golygu

Nodau mesurau mynediad lefel ddomestig:

  • Creu sicrwydd cyfreithiol, eglurder a thryloywder
  • Darparu rheolau a gweithdrefnau teg a heb fod yn fympwyol
  • Sefydlu rheolau a gweithdrefnau clir ar gyfer caniatâd gwybodus a thelerau y cytunir arnynt gan y ddwy ochr
  • Darparu trwydded neu gyfwerth pan ganiateir mynediad
  • Creu amodau i hyrwyddo ac annog ymchwil sy'n cyfrannu at gadwraeth bioamrywiaeth a defnydd cynaliadwy
  • Rhoi sylw dyledus i achosion o argyfyngau sy'n bygwth iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion
  • Ystyried pwysigrwydd adnoddau genetig ac amaethyddiaeth ar gyfer diogelwch bwyd

Cyfeiriadau golygu

  1. Prathapan, K. Divakaran; Pethiyagoda, Rohan; Bawa, Kamaljit S.; Raven, Peter H.; Rajan, Priyadarsanan Dharma (2018). "When the cure kills—CBD limits biodiversity research". Science 360 (6396): 1405–1406. Bibcode 2018Sci...360.1405P. doi:10.1126/science.aat9844. PMID 29954970. https://www.science.org/doi/full/10.1126/science.aat9844. Adalwyd 2018-11-28.
  2. "Nagoya Protocol". 9 June 2015.

Darllen pellach golygu

  • Smith, David; da Silva, Manuela; Jackson, Julian; Lyal, Christopher (1 March 2017). "Explanation of the Nagoya Protocol on Access and Benefit Sharing and its implication for microbiology". Microbiology (Microbiology Society) 163 (3): 289–296. doi:10.1099/mic.0.000425. ISSN 1350-0872. PMID 28086069.
  • Golan, Jacob; Athayde, Simone; Olson, Elizabeth; McAlvay, Alex (3 April 2019). "Intellectual Property Rights and Ethnobiology: An Update to Posey's Call to Action". Journal of Ethnobiology (Society of Ethnobiology) 39 (1): 90–109. doi:10.2993/0278-0771-39.1.90. ISSN 0278-0771.

Dolenni allanol golygu