Prys Edwards

Pensaer a dyn busnes o Gymro

Pensaer a dyn busnes o Gymru oedd Ifan Prys Edwards (11 Chwefror 194216 Mawrth 2020).[1][2]

Prys Edwards
GanwydIfan Prys Edwards Edit this on Wikidata
11 Ionawr 1942 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mawrth 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Bensaernïaeth Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, gwirfoddolwr Edit this on Wikidata
TadIfan ab Owen Edwards Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Aberystwyth, yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards ac Eirys Mary Lloyd Edwards (née Phillips). Ei frawd oedd Owen Edwards. Graddiodd mewn Pensaerniaeth o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Caerdydd yn 1965. Roedd yn brif bartner yn ei gwmni pensaernïol ei hun, Partneriaeth Prys Edwards, rhwng 1966 ac 1986.

Urdd Gobaith Cymru

golygu

Fel mab i sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru bu ynghlwm â'r corff drwy ei fywyd. Bu'n aelod am flynyddoedd, yn swyddog yn y gwersylloedd, yn gyn arweinydd Aelwyd Aberystwyth ac yn arweinydd yr Urdd yn yr ymgyrch i gael Deddf yr Iaith Gymraeg.

Roedd wedi dal swyddi gwirfoddol o fewn yr Urdd ers 1965 yn cynnwys ysgrifennydd Mygedol, Trysorydd, Cadeirydd a Llywydd. Bu'n ymddiriedolwr hyd at 2012 cyn ymddeol oherwydd ei iechyd. Parhaodd fel Llywydd Anrhydeddus.[3]

Swyddi eraill

golygu

Roedd yn un o gyfarwyddwyr Bwrdd Datblygu Cymru Wledig rhwng 1976 ac 1984. Roedd yn llywydd Bwrdd Croeso Cymru rhwng 1984 ac 1992 ac yn gadeirydd S4C rhwng 1992 ac 1998. Bu hefyd yn aelod o fyrddau CADW, Awdurdod Twristiaeth Prydeinig a Chanolfan Mileniwm Cymru.[4]

Bywyd personol

golygu

Priododd Catherine Williams ar 3 Medi 1966 a chawsant ddau o blant, Lisa Mair a Sion ab Ifan.

Fel ei frawd, bu'n dioddef o gyflwr Parkinson, a bu farw ym mis Mawrth 2020.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Ifan Prys Edwards. Prabook. Adalwyd ar 18 Mehefin 2019.
  2. Marw Prys Edwards: S4C yn talu teyrnged i “arweinydd wrth reddf” , Golwg360, 17 Mawrth 2020.
  3. Galw am fudiad arall o fewn yr Urdd ar gyfer rhieni , BBC Cymru Fyw, 27 Ionawr 2012. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.
  4.  Pwyllgor Gwaith yr Urdd. Urdd Gobaith Cymru. Adalwyd ar 18 Mehefin 2019.
  5. 'Yr Urdd achubodd yr iaith': Prys Edwards , BBC Cymru Fyw, 13 Mawrth 2014. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.