Agor y brif ddewislen

Ifan ab Owen Edwards

darlithydd, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru;

Academydd ac awdur oedd Syr Ifan ab Owen Edwards (25 Gorffennaf 189523 Ionawr 1970). Mae'n fwyaf adnabyddus am sefydlu Urdd Gobaith Cymru yn y flwyddyn 1922.

Ifan ab Owen Edwards
Edwards 284.jpg
Cerfluniau Owen Morgan Edwards (chwith) a'i fab Ifan ab Owen Edwards (dde) yn Llanuwchllyn
Ganwyd 25 Gorffennaf 1895 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Ionawr 1970 Edit this on Wikidata (74 oed)
Dinasyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Hanesydd, Cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Tad Owen Morgan Edwards Edit this on Wikidata
Plant Owen Edwards, Prys Edwards Edit this on Wikidata

Am gyfnod golygai'r cylchgrawn Cymru'r Plant ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Ysgol Gymraeg yr Urdd, Aberystwyth yn 1939. Gyda chymorth John Ellis Williams, cynhyrchodd y ffilm lafar Gymraeg gyntaf, Y Chwarelwr, ar gyfer sinema deithiol.

Bywyd cynnar ac addysgGolygu

Ganwyd yn Nhremaran, Llanuwchllyn, Meirionnydd, yn fab i Syr Owen Morgan Edwards ac Ellen Elizabeth Edwards (née Davies). Magwyd yn Rhydychen nes dychwelodd y teulu i Lanuwchllyn yn 1907. Aeth i ysgol ramadeg y Bala ac yna i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1912–1915).

Gwasanaethodd fel milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf rhwng 1915 ac 1918. Wedi'r rhyfel aeth i Goleg Lincoln, Rhydychen rhwng 1918 ac 1920 a graddio mewn hanes.[1]

Bywyd personolGolygu

Priododd Eirys Mary Lloyd Phillips, Lerpwl ar 18 Gorffennaf 1923. Cartref cyntaf y pâr oedd Neuadd Wen, Llanuwchllyn, cyn symud i Aberystwyth yn 1930. Ganed dau fab iddynt, Owen a Prys. Daeth Owen Edwards yn newyddiadurwr, darlledwr ac yn Brif Weithredwr cyntaf S4C. Roedd ei frawd Prys Edwards yn bensaer a weithiodd drwy ei oes gyda'r Urdd.

Llyfrau ab OwenGolygu

  • 1. Gwreichion y Diwygiadau wedi eu casgku gan Garneddog. 1905.
  • 2. Clych adgof. Penodau yn hanes fy addysg gan Owen M. Edwards. 1906.
  • 3. Tro trwy'r wig gan Richard Morgan. Cyfrol 1. 1906.
  • 4. Cerrig y Rhyd gan Winnie Parry. 1907.
  • 5. Capel Ulo gan Elwyn. 1907.
  • 6. Tro trwy'r gogledd gan Owen M. Edwards. 1907.
  • 7. Robert Owen, Apostol Llafur, Cyfrol 1. 1907.
  • 8. Dafydd Jones o Drefriw gan y Parch. O. Gaiannydd Williams. 1907.
  • 9. Tro i'r De gan Owen M. Edwards. 1907.
  • 10. Gwaith Hugh Jones, Maesglasau : i. Cydymaith yr Hwsmon, 1774. ii. Hymnau newyddion, 1797 1907.
  • 11. Trwy India'r Gorllewin gan y Parch. D. Cunllo Davies. dim dyddiad.
  • 12. Ceris y Pwll gan Owen Williamson, Dwyran, Môn. 1908.
  • 13. Robert Owen, Apostol Llafur, Cyfrol II. 1910.
  • 14. Caniadau Buddug wedi eu casglu a'u dethol gan ei phriod. 1911.
  • 15. Brut y Tywysogion. Cyfrol I. 1913.
  • 16. Cyfrinach y Dwyrain gan y Parch. D. Cunllo Davies. 1914.
  • 17. Dr. W. Owen Pughe gan y Parch. T. Mordaf Pierce. 1914.

Argraffwyd y cwbl gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Swyddfa "Cymru," Caernarfon. 'Ab Owen' sydd ar waelod y meingefn, ac eithrio bod enw 'Wrexham, Hughes a'i Fab' ar rai copïau. Mae'n debyg mai llenni gwreiddiol wedi eu rhwymo'n ddiweddarach yn Wrecsam yw'r copïau hynny, gan y ceir copïau gwreiddiol o'r un llyfrau gydag 'Ab Owen' ar y meingefn. Sylwer ar y nifer a ymddangosodd yn 1907, blwyddyn na chyhoeddodd ynddi ond un gyfrol o Gyfres y Fil.[2]

CyfeiriadauGolygu

  1.  EDWARDS, Syr IFAN ab OWEN (1895 - 1970), darlithydd, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru;. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 19 Mehefin 2019.
  2.  E.D.Jones (Awst 1977). LLYFRAU AB OWEN ~ Y Rhestr Lawn gan E.D.Jones. Adalwyd ar 4 Mai 2012.

LlyfryddiaethGolygu

  • Norah Isaac, Ifan ab Owen Edwards (Caerdydd, 1972). Golwg ar ei fywyd a'i waith.