Puszcza Kampinoska

Mae Puszcza Kampinoska (Coedwig Kampinos) yn ardal goediog sy'n gorwedd yng nghanolbarth Gwlad Pwyl, yn nyffryn afon Wisła i'r gogledd-orllewin o ddinas Warsaw. Mae gan yr ardal arwynebedd oddeutu 670 km², ond dim ond 270 km² sydd dan orchudd coed. Mae'r ardal wedi ei dynodi fel parc cenedlaethol, a derbyniodd statws gwarchodfa fiosffer UNESCO yn 2000.

Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Pwyl. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.