Puerto Rico
(Ailgyfeiriad o Pwerto Rico)
Tiriogaeth hunan-lywodraethol yr Unol Daleithiau yn y Caribî yw Puerto Rico. Fe'i lleolir yn yr Antilles Mwyaf, i'r dwyrain o Weriniaeth Dominica ac i'r gorllewin o'r Ynysoedd Virgin. Mae ganddi arwynebedd o 9,104 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae'r diriogaeth yn cynnwys prif ynys Puerto Rico ynghyd â nifer o ynysoedd llai megis Vieques, Culebra a Mona. Mae gan Puerto Rico ei gyfansoddiad ei hun a'i ganghennau deddfwriaethol, gweithredol a barnwrol ei hun. Mae'r cysylltiad â'r Unol Daleithiau trwy ddinasyddiaeth a rennir, arian cyfred ac amddiffyn.
Puerto Rico Cymanwlad Puerto Rico (Swyddogol) Estado Libre Asociado de Puerto Rico (Sbaeneg) | |
Arwyddair | Juan yw ei enw |
---|---|
Math | tiriogaeth anghorfforedig yr Unol Daleithiau, ardal ynysol, endid tiriogaethol gwleidyddol, talaith America Sbaenaidd, ardal ddiwylliannol, tiriogaeth yr Unol Daleithiau, cymanwlad |
Enwyd ar ôl | Puerto Rico, San Juan |
Prifddinas | San Juan |
Poblogaeth | 3,285,874 |
Sefydlwyd | 10 Rhagfyr 1898 (Annibyniaeth oddi wrth Sbaen) |
Anthem | La Borinqueña |
Pennaeth llywodraeth | Pedro Pierluisi |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Nawddsant | Ein Harglwyddes dros Ragluniaeth Dwyfol |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Sbaenig, US Caribbean, Caribbean Islands, Antilles Fwyaf, America Ladin, Y Caribî |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 9,104 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Môr y Caribî |
Cyfesurynnau | 18.25°N 66.5°W |
US-PR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Puerto Rico |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Deddfwriaethol Puerto Rico |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywodraethwr Puerto Rico |
Pennaeth y Llywodraeth | Pedro Pierluisi |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $217.8 million, $113,435 million |
Arian | doler yr Unol Daleithiau |
Cyfartaledd plant | 1.47 |