Pwyllgor Gweithredol Merched Arabaidd (AWE)

mudiad ffeministaidd ym Mhalesteina

Sefydliad i fenywod ym Mhalesteina oedd Pwyllgor Gweithredol Merched Arabaidd (AWE), a sefydlwyd ym 1929. Hwn oedd y sefydliad menywod cyntaf ym Mhalestiena, a man cychwyn mudiad menywod Palestina.[1]

Pwyllgor Gweithredol Merched Arabaidd
Enghraifft o'r canlynolpwyllgor Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1929 Edit this on Wikidata
SylfaenyddTarab Abdul Hadi Edit this on Wikidata
PencadlysJeriwsalem Edit this on Wikidata

Fe'i ffurfiwyd yn Jeriwsalem ym 1929. Ei bwrpas oedd ymgyrch dros fenywod Palesteinaidd. Sefydlwyd y mudiad gan Wahida al-Khalidi (llywydd), Matiel Mogannam a Katrin Deeb (ysgrifenyddion), Shahinda Duzdar (trysorydd), Tarab Abdul Hadi , Naʿimiti al-Husayni, Tarab Abd al-Hadi, Mary Shihada, Anisa al-Khadra, Khadija al-Husayni, Diya alNashashibi, Melia Sakakini, Zlikha al-Shihabi, Kamil Budayri, Fatima al-Husayni, Zahiya alNashashibi, a Saʿdiyya al-Alami .

Trefnodd a chynhaliodd Gyngres Gyntaf Merched Arabaidd Palesteina (a elwid hefyd yn Gyngres Gyntaf Merched Arabaidd Jeriwsalem ym 1929, sef y gynhadledd ryngwladol gyntaf i ferched yn y byd Arabaidd ac yn rhagflaenydd i Gyngres Gyntaf Merched y Dwyrain .

Cyfeiriadau golygu

  1. Fleischmann, E. (2000). The Emergence of the Palestinian Women's Movement, 1929-39. Journal of Palestine Studies, 29(3), 16-32. doi:10.2307/2676453 (Saesneg)