Pysgota yng Nghymru
dal pysgod ar raddfa ddiwydiannol neu gartref, am gynhaliaeth neu bleser, mewn dŵr môr neu groew
Nid un o brif ddiwydiannau Cymru yw pysgota, ond mae gan y wlad nifer o borthladdoedd pysgota bychain, yn ogystal â'r prif borthladd yn Aberdaugleddau, a channoedd o gychod pysgota. Y prif ddalfaoedd yw cregyn bylchog, penfras, cimychiaid, a chathod môr.
Dylliau pysgota cartref
golygu- Tryfera
Dull o bysgota ar droed neu drwy nofio mewn basddwr am ledod yn bennaf, gyda phicell triphig a elwir yn 'tryfar', oedd hyn. Dyma hanes leol am y dull gan Celt Roberts o Dalsarnau, heb fod nepell o'r Traeth Bach, Morfa Harlech lle'r arferid y traddodiad tan yn ddiweddar.
- "Thomas ac Evan Jones – tad a mab [llun ym Mwletin Llên Natur rhifyn 38 (tud. 2)[1]. Roedd Evan Jones yn hynod am ddal lledod ar y traeth. Nofiai gydag un fraich a thryfar yn y llall ac nid peth anarferol oedd cael helfa dda. Pryd tynnwyd y llun? Dim gwybodaeth, ond dyma ddyddiadau’r ddau – Thomas Jones 1814-1900 ac Evan Jones 1859 – 1928. Hen daid i Derwyn Evans oedd Evan Jones. Derwyn yw’r gŵr fu’n gweithio am rai blynyddoedd ar draeth Talsarnau yn y 50au yn torri tywyrch i’w gyrru ar hyd ac ar led i wneud lawntiau bowlio a thenis, ac i fannau megis planhigfa ar gyfer Wembley. Mae wedi trosglwyddo’r offer oedd yn eu defnyddio i Neuadd Gymuned Talsarnau”.