Quintus Gargilius Martialis

Awdur Rhufeinig a ysgrifennai ar arddwriaeth (horticulture) oedd Quintus Gargilius Martialis. Blodeuai yn y 3g.

Quintus Gargilius Martialis
Ganwyd3 g Edit this on Wikidata
Bu farw3 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, meddyg Edit this on Wikidata

Yn ôl rhai awdurdodau ef yw'r pennaeth milwrol o'r un enw a gollodd ei fywyd yn 260 yn ymladd yn Auzia, yn Mauretania Caesariensis (gogledd-orllewin Algeria heddiw).

Mae darnau sylweddol o'i waith, a elwid De hortis, efallai, wedi goroesi, yn bennaf yn y llyfr Medicina Plinii, gwaith seiliedig ar ran o lyfr enwog Pliny'r Hynaf, Naturalis Historiae, gan awdur anhysbys o'r 4g. Roedd llyfr Quintus Gargilius yn ymwneud â thyfu a thrin coed a llysiau ac yn trafod eu rhinweddau meddyginiaethol.

Mae'r adrannau o'r llyfr sydd ar glawr yn trafod afalau, eirin gwlanog, quinces, cnau ffrengig a'r almon.

Ysgrifennodd Gargilius draethawd ar fagu gwartheg (De curis bourn) yn ogystal, ond nid yw wedi goroesi.

Mae bywgraffiad o'r ymerodr Alexander Severus yn cael ei dadogi gan yr ysgrifenwyr Rhufeinig Aelius Lampridius a Flavius Vopiscusar ar awdur o'r enw Gargilius Martialis, sydd efallai yr un â Quintus Gargilius Martialis.