Rügen
Ynys fwyaf yr Almaen yw Rügen. Fe'i lleolir yng ngogledd y wlad yn agos at arfordir Pomerania yn y Môr Baltig. Mae'n perthyn i dalaith Mecklenburg-Vorpommern.
Math | ynysfor, ynys |
---|---|
Prifddinas | Bergen auf Rügen |
Poblogaeth | 67,526 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Môr Baltig |
Sir | Ardal Vorpommern-Rügen |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 926 km² |
Uwch y môr | 161.1 metr |
Gerllaw | Basn Arkona |
Cyfesurynnau | 54.45°N 13.4°E |
Hyd | 52 cilometr |
Mae'r ynys yn ymestyn tua 52 km (32 milltir) o'r gogledd i'r de, a 43 km (27 milltir) o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae ganddi arwynebedd o 926 km2 (358 milltir sgwâr).
Mae'r arfordir yn nodedig am ei draethau tywodlyd, morlynnoedd a baeau agored, yn ogystal â'i glogwyni, penrhynau a phentiroedd.
Mae'r ynys yn boblogaidd fel cyrchfan i dwristiaid oherwydd ei bensaernïaeth, y dirwedd amrywiol a'i thraethau hir, tywodlyd. Ym Mehefin 2011, dyfarnodd UNESCO statws Safle Treftadaeth y Byd i Barc Cenedlaethol Jasmund.
Oriel
golygu-
Parc Cenedlaethol Jasmund, a'i glogwyni sialc: Victoria-Sicht a Königsstuhl
-
Traeth Binz
-
Kurhaus (gwesty sba) yn Binz
-
Kreidefelsen auf Rügen ("Clogwyni Sialc ar Rügen"), paentiad Rhamantaidd o 1818 gan Caspar David Friedrich