Robert Maynard Jones (Bobi Jones)
academaidd o Gymru
(Ailgyfeiriad o R.M. Jones)
Llenor yn yr iaith Gymraeg ac ysgolhaig o Gymru oedd Robert Maynard Jones neu Bobi Jones (20 Mai 1929 – 22 Tachwedd 2017).[1]
Robert Maynard Jones | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mai 1929 Caerdydd |
Bu farw | 22 Tachwedd 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Ganwyd Jones yng Nghaerdydd a cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Cathays, Choleg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd a Choleg Prifysgol Dulyn. Bu'n Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth o 1980 tan ei ymddeoliad.[2]
Roedd yn gyd-sylfaenydd Cymdeithas y Dysgwyr yn 1982.
Bu farw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn Nhachwedd 2017 gan adael ei wraig Beti a dau o blant.
Llyfryddiaeth
golygu- Y Gân Gyntaf (Gwasg Aberystwyth, 1957)
- Nid yw Dwr yn Plygu (Llyfrau'r Dryw, 1958)
- I'r Arch (Llyfrau'r Dryw, 1959)
- Bod yn Wraig (Llyfrau'r Dryw, 1960)
- Rhwng Taf a Thaf (Llyfrau'r Dryw, 1960)
- Y Tair Rhamant (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1960)
- Lenyddiaeth Gymraeg yn Addysg Cymru (Llyfrau'r Dryw, 1961)
- Emile (Gwasg Prifysgol Cymru, 1963)
- Cyflwyno'r Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1964)
- System in Child Language (Gwasg Prifysgol Cymru, 1964)
- Tyred Allan (Llyfrau'r Dryw, 1965)
- Man Gwyn: Caneuon Quebec (Llyfrau'r Dryw, 1965)
- Cymraeg i Oedolion (1965-1966)
- Y Dyn na Ddaeth Adref (Llyfrau'r Dryw, 1966)
- Yr Ŵyl Ifori (Llyfrau'r Dryw, 1967)
- Ci Wrth y Drws (Llyfrau'r Dryw, 1968)
- Daw'r Pasg i Bawb (Llyfrau'r Dryw, 1969)
- Highlights in Welsh Literature (Christopher Davies, 1969)
- Pedwar Emynydd (Llyfrau'r Dryw, 1970)
- Allor Wydn (Llyfrau'r Dryw, 1971)
- Sioc o'r Gofod (Gwasg Gee, 1971)
- Traed Prydferth (D. Davies, 1973)
- Tafod y Llenor (Gwasg Prifysgol Cymru, 1974)
- Ysgrifennu Creadigal i Fyfyrwyr Prifysgol (1974)
- Cyfeiriadur i'r Athro Iaith, gyda Megan E. Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru, 1974-1979)
- Llenyddiaeth Cymru (1975)
- Gwlad Llun (C. Davies, 1976)
- Ann Griffiths: y Cyfrinydd Sylweddol (Llyfrgell Efengylaidd Cymru, 1977)
- Llên Cymru a Chrefydd (C. Davies, 1977)
- Pwy Laddodd Miss Wales? (C. Davies, 1977)
- Hunllef Arthur (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)
- Crio Chwerthin (Cyhoeddiadau Barddas, 1990)
- Dawn Gweddwon (Gwasg Gomer, 1992)
- Crist a Chenedlaetholdeb (Gwasg Bryntirion, 1994)
- Cyfriniaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
- Ynghylch Tawelwch (Cyhoeddiadau Barddas, 1998)
- Epistol Serch a Selsig (Gwasg Gomer, 1997)
- Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
- O'r Bedd i'r Crud - Hunangofiant Tafod (Gwasg Gomer, 2000)
- Mawl a'i Gyfeillion (Cyhoeddiadau Barddas, 2000)
- Ôl Troed (Cyhoeddiadau Barddas, 2003)
- Beirniadaeth Gyfansawdd (Cyhoeddiadau Barddas, 2003)
- Rhy Iach (Cyhoeddiadau Barddas, 2004)
- Y Fadarchen Hudol (Cyhoeddiadau Barddas, 2005)
- Meddwl y Gynghanedd (Cyhoeddiadau Barddas, 2005)
- Yr Amhortreadwy a Phortreadau Eraill (Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr Athro Emeritws Bobi Jones wedi marw yn 88 oed , BBC Cymru Fyw, 22 Tachwedd 2017.
- ↑ "Papurau Bobi Jones". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2014-10-25.
Dolenni allanol
golygu