Robert Dewi Williams
gweinidog (MC), prifathro Ysgol Clynnog a llenor
(Ailgyfeiriad o R. Dewi Williams)
Gweinidog, athro ac awdur Cymraeg oedd Robert Dewi Williams (29 Rhagfyr 1870 - 25 Ionawr 1955), yn ysgrifennu fel R. Dewi Williams.
Robert Dewi Williams | |
---|---|
Ganwyd | 29 Rhagfyr 1870 Pandy Tudur |
Bu farw | 25 Ionawr 1955 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, pennaeth |
Ganed ef yn Llwyn-du Isaf, Pandy Tudur. Bu'n astudio yn Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth am gyfnod, yna yn Ngholeg Iesu, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn weinidog yn 1900, a bu'n weinidog yn Llandwrog a Penmaenmawr. Yn 1917, daeth yn brifathro ysgol Clynnog Fawr. Symudodd yr ysgol i'r Rhyl yn ddiweddarach, a bu yma hyd ei ymddeoliad yn 1939.
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gyfrol o storïau byrion Y Clawdd Terfyn, a ymddangosodd yn 1912.
Cyhoeddiadau
golygu- Y Clawdd Terfyn (1912)