Pandy Tudur

pentref ym mwrdeistref sirol Conwy

Pentref bychan yng nghymuned Llangernyw, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Pandy Tudur[1] neu Pandytudur.[2] Saif lle mae'r ffordd B5384 i gyfeiriad Gwytherin yn gadael y briffordd A548 rhwng Llanrwst a Llangernyw.

Pandy Tudur
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1637°N 3.7098°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH857642 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Mae Eisteddfod Pandy Tudur yn cael ei chynnal yn flynyddol; dathlodd ei phen blwydd yn gant a hanner oed yn 2006. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf ar 26 Mehefin, 1856, gydag Eben Fardd yn beirniadu. Roedd yn arfer cael ei chynnal yn ysgol Pandy Tudur, sydd yn awr wedi cau, ond ers y 1970au mae'n cael ei chynnal yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw, Llangernyw.

Pandy Tudur

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.