R. G. Armstrong
Actor ffilm, llwyfan, a theledu ac yn ddramodydd Americanaidd oedd Robert Golden "R. G." Armstrong, Jr (7 Ebrill 1917 – 27 Gorffennaf 2012).[1]
R. G. Armstrong | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ebrill 1917 Birmingham, Alabama |
Bu farw | 27 Gorffennaf 2012 Studio City |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Priod | Mary Craven |
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd Armstrong ar 7 Ebrill 1917 yn Pleasant Grove, Alabama, cafodd ei fagu gan deulu Cristionogol ffwndamentalaidd ar fferm fechan ger Birmingham, Alabama. Derbyniodd Armstrong ei addysg yng Ngholeg Howard (Prifysgol Samford, bellach) lle dechreuodd ymddiddori ym Maes Actio; oddi yno aeth i Brifysgol Gogledd, lle bu ef a'i gyd efrydydd Andy Griffith yn actio ar lwyfan gyda chwmni o'r enw "The Carolina Playmakers". Wedi graddio aeth i Ysgol Drama yr Actors Studio yn Efrog Newydd.[2]
Gyrfa
golyguDechreuodd gyrfa Armstrong ym 1954 fel actor lwyfan ym Mroadway, lle cafodd adolygiadau da am ei ran yn nrama Tennessee Williams Cat on a Hot Tin Roof. Dechreuodd cyfansoddi ei ddrama ei hun tua'r un cyfnod a oedd yn cael eu perfformio mewn theatrau oddi ar Broadway. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf yn yr un flwyddyn Garden of Eden, ffilm am wersyll i noethlymunwyr.
Daeth yn amlwg ar y teledu fel cymeriad ym mron pob un gyfres cowbois poblogaidd a chynhyrchwyd yn yr UDA yn y 1950au a'r 1960au gan gynnwys Have Gun - Will Travel, The Californians, Jefferson Drum, The Tall Man, Riverboat, The Rifleman, Zane Grey Theater, Wanted: Dead or Alive, The Westerner, The Big Valley, Bonanza, Maverick, Gunsmoke, Rawhide a Wagon Train.
Bu'n serennu mewn sawl ffilm gan gynnwys The Fugitive Kind, El Dorado, Race with the Devil, The Car, Dick Tracy, Predato a Purgatory, ei ffilm derfynol.
Bywyd personol
golyguBu Armstrong yn briod tair gwaith ei wraig gyntaf oedd Ann Neale o 1952 hyd eu hysgariad ym 1972, bu iddynt bedwar o blant; wedyn bu'n briod a Susan M. Guthrie ym 1973 gan ysgaru ym 1976, yn olaf priododd Mary Craven o 1993 tan iddi farw yn 2003
Marwolaeth
golyguBu farw Armstrong o achosion naturiol ar 27 Gorffennaf 2012 yn ei gartref yn Studio City, California. Roedd yn 95 mlwydd oed.[3]
Ffilmiau
golygu- Never Love a Stranger (1958)
- The Fugitive Kind (1959)
- Ride the High Country (1962)
- Major Dundee (1965)
- El Dorado (1966)
- The Great White Hope (1970)
- The Ballad of Cable Hogue (1970)
- J. W. Coop (1972)
- The Final Comedown (1972
- The Great Northfield Minnesota Raid (1972)
- Pat Garrett and Billy the Kid (1973)
- My Name is Nobody (1973)
- White Lightning (1973)
- Boss Nigger (1975)
- White Line Fever (1975)
- Race with the Devil (1975)
- Stay Hungry (1976)
- Dixie Dynamite (1976)
- The Car (1977)
- Heaven Can Wait (1978)
- The Time Machine (1978)
- Steel (1979)
- Fast Charlie... the Moonbeam Rider (1979)
- Reds (1981)
- Evilspeak (1981)[4]
- The Beast Within (1982)
- The Shadow Riders (1982)
- Lone Wolf McQuade (1983)
- Children of the Corn (1984)
- The Best of Times (1986)
- Red Headed Stranger (1986)
- Predator (1987)
- Jocks (1987)
- Bulletproof (1988)
- Dick Tracy (1990)
- Warlock: The Armageddon (1993)
- Payback (1995)
- Purgatory (1999)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "R. G. Armstrong, Character Actor in Westerns, Dies at 95", New York Times, 31 Gorffennaf 2012 [1] adalwyd 31 Rhagfyr 2015
- ↑ "R.G. Armstrong, prolific character actor from Birmingham, dies", Alabama.Com, 31 Gorffennaf 2012 [2] adalwyd 31 Rhagfyr 2015
- ↑ Find a Grave: R G Armstrong adalwyd 31 Rhagfyr 2015
- ↑ Internet Movie Database: R.G. Armstrong (1917–2012) adalwyd 31 Rhagfyr 2015