Tennessee Williams
Dramodydd Americanaidd o dras Gymreig oedd Thomas Lanier Williams (26 Mawrth 1911 – 25 Chwefror 1983) a enillodd lawer iawn o wobrau uchaf am ei ddramâu. Newidiodd ei enw i "Tennessee", sef talaith enedigol ei dad yn 1939.
Tennessee Williams | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Lanier Williams 26 Mawrth 1911 Columbus |
Bu farw | 25 Chwefror 1983 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Clarksdale, Columbus, Mississippi, New Orleans, St. Louis |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, nofelydd, sgriptiwr, bardd, llenor |
Swydd | Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Pethe Brau, A Streetcar Named Desire, The Rose Tattoo, Cat on a Hot Tin Roof |
Arddull | drama llafar |
Prif ddylanwad | Anton Chekhov, August Strindberg, D. H. Lawrence, Hart Crane |
Tad | Cornelius Coffin Williams |
Mam | Edwina Estelle Dakin |
Gwobr/au | Gwobr Pulitzer am Ddrama, Tony Award for Best Play, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Anrhydedd y Kennedy Center, Hall of Fame Artistiaid Florida, Medal Rhyddid yr Arlywydd, star on Playwrights' Sidewalk |
llofnod | |
Enillodd Wobr Pulitzer am A Streetcar Named Desire yn 1948 ac am ei ddrama Cat on a Hot Tin Roof yn 1955. Enillodd The Glass Menagerie (1945) a The Night of the Iguana (1961) Wobr "New York Drama Critics' Circle]". Enillodd ei drama The Rose Tattoo Wobr Tony (Tony Award) am y ddrama gorau, yn 1952.
Plentyndod ac addysg
golyguNid yn Nhennessee ond yn Columbus, Mississippi, y'i ganwyd, a hynny ar 26 Mawrth, 1911 yn nhŷ ei daid a oedd yn werthwr teithiol. Daeth ei enw canol, Lanier o Virginia. Yn bump oed roedd yn sal iawn efo diphtheria. Roedd rhaid iddo aros yn ei wely am ddwy flynedd - ac yna y dechreuodd ddarllen o ddifri dan ddylanwad ei fam. Cornelius Williams oedd ei dad ac efallai oherwydd salwch ei fab cafodd Tennessee fawr o sylw ganddo; rhoddodd fwy o sylw i Dakin, brawd Williams.
Mam ddominyddol go iawn - fel ambell un o'i gymeriadau - oedd ei fam, Edwina Dakin Williams - ac roedd gan mwy nag un aelod o'r teulu broblemau meddyliol. Aeth i Brifysgol Missouri yn y tridegau lle bathwyd yr enw "Tennessee" gan y myfyrwyr eraill; mae stori arall amdano yn adrodd hanes y teulu yn ymladd yn erbyn brodorion Tennessee. Wedi iddo farw aeth ei holl arian i brifysgol yn Nhennessee. Erbyn diwedd y tridegau graddiodd ef o Brifysgol Iowa (ym 1938). Ei ddrama gynharaf oedd 'Cairo, Shanghai, Bombay!' a gynhyrchwyd yn 1935 ym Memphis, Tennessee.
Gwaith llenyddol
golyguRoedd Williams yn byw o 1939 yn y French Quarter, New Orleans, Louisiana. Yma yr ysgrifennodd ef ei ddramâu enwog The Glass Menagerie (1944), cyfieithiad Cymraeg Pethau Brau (1992) ac A Streetcar Named Desire (1947) a gyfieithwyd i'r Gymraeg dan yr enw Cab Chwant (1995) - y ddau drosiad gan Emyr Edwards. Symudodd wedyn i Key West, Florida, efo'i bartner oes, Frank Merlo, (bu farw ym 1963 o gancr yr ysgyfaint) roedd y berthynas rhyngddynt yn help mawr iddo oroesi cyfnodau o iselder. Ni chafodd gymaint o lwyddiant wedi marwolaeth ei gymar oes ym 1963 - ond ym mis Medi 2006 cynhyrchwyd ei ddrama 'heb ei gyhoeddi' The Parade, or Approaching the End of Summer, sy'n fath o hunangofiant. Cyhoeddwyd ei ddrama olaf A House Not Meant to Stand yn 2008. Roedd yn awdur straeon byrion cyn troi at ddrama. Ysgrifennodd hefyd tua 70 a ddramâu un act.
Erbyn heddiw - oherwydd enwogrwydd Tennessee Williams - mae Key West yn un o brif gymunedau hoyw yr Unol Daleithiau. Roedd ei chwaer Rose yn scitsoffrenaidd a dreuliodd ei bywyd mewn ysbytai - ac wedi iddi ddioddef lobotimi gwylltiodd Tennessee efo ei deulu. Roedd Williams ei hun yn gaeth i alcohol, amphetaminau a barbitiwradau. Bu farw dan eu dylanwad ym 1983.
Llyfryddiaeth
golyguDramâu
golygu- 1938 Not About Nightingales
- 1944 The Glass Menagerie
- 1947 A Streetcar Named Desire (a enillodd Wobr Pulitzer)
- 1948 Summer and Smoke
- 1951 The Rose Tattoo (Rhith y Rhosyn; Gwobr Tony)
- 1953 Camino Real
- 1955 Cat on a Hot Tin Roof (ei ail Wobr Pulitzer)
- 1957 Orpheus Descending
- 1957 And Tell Sad Stories of the Deaths of Queens
- 1958 Something Unspoken"
- 1958 Suddenly, Last Summer
- 1959 Sweet Bird of Youth
- 1960 Period of Adjustment
- 1961 Night of the Iguana
- 1962 The Eccentricities of a Nightingale (ailwampiad o Summer and Smoke)
- 1963 The Milk Train Doesn't Stop Here Anymore
- 1966 The Mutilated
- 1966 The Gnädiges Fräulein
- 1968 The Seven Descents of Myrtle (hefyd Kingdom of Earth)
- 1969 In the Bar of a Tokyo Hotel
- 1969 Now the Cats with Jewelled Claws
- 1969 Will Mr. Merriweather Return from Memphis?
- 1970 I Can't Imagine Tomorrow
- 1970 The Frosted Glass Coffin
- 1972 Small Craft Warnings
- 1973 Out Cry
- 1975 The Red Devil Battery Sign
- 1976 The Demolition Downtown
- 1976 This Is (An Entertainment)
- 1977 Vieux Carré
- 1979 Kirche, Küche, Kinder
- 1979 Lifeboat Drill
- 1979 A Lovely Sunday for Creve Coeur
- 1980 The Chalky White Substance
- 1980 This Is Peaceable Kingdom or Good Luck God
- 1980 Steps Must be Gentle
- 1980 Clothes for a Summer Hotel
- 1980 The Notebook of Trigorin
- 1981 Something Cloudy, Something Clear
- 1982 A House Not Meant to Stand
- 1983 In Masks Outrageous and Austere
- 1983 The One Exception
Addasiadau Ffilm
golygu- 1950 The Glass Menagerie, efo Kirk Douglas
- 1951 A Streetcar Named Desire, efo Vivian Leigh
- 1951 The Rose Tattoo, efo Burt Lancaster
- 1955 Cat on a Hot Tin Roof, efo Paul Newman ac Elizabeth Taylor
- 1959 Suddenly, Last Summer, efo Montgomery Clift, Katharine Hepburn ac Elizabeth Taylor
- 1961 Summer and Smoke, efo Laurence Harvey ac Geraldine Page
- 1962 Sweet Bird of Youth, efo Paul Newman ac Elizabeth Taylor
- 1964 Night of the Iguana, efo Richard Burton ac Ava Gardner
- 1966 Camino Real, efo Martin Sheen
- 1974 The Migrants, efo Cloris Leachman a Brad Sullivan
- 1990 Orpheus Descending, efo Kevin Anderson a Vanessa Redgrave
- 1993 Suddenly last Summer, efo Maggie Smith a Rob Lowe
- 2001 The Yellow Bird, efo James Coburn a Faye Dunaway
Straeon byrion
golygu- The Vengeance of Nitocris (1928)
- The Field of Blue Children (1939)
- The Resemblance Between a Violin Case and a Coffin (1951)
- Hard Candy: a Book of Stories (1954)
- Three Players of a Summer Game and Other Stories (1960)
- Grand (1964)
- The Knightly Quest: a Novella and Four Short Stories (1966)
- One Arm and Other Stories (1967)
- Eight Mortal Ladies Possessed: a Book of Stories (1974)
- Tent Worms (1980)
- It Happened the day the Sun Rose, and Other Stories (1981)
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
golygu- Pethe brau : cyfieithiad o The Glass Menagerie gan Emyr Edwards 1992, Llandysul: Gwasg Gomer
- Cab chwant : cyfieithiad o A Streetcar Named Desire gan Emyr Edwards 1992; Aberystwyth : Canolfan Astudiaethau Addysg, ©1995.