Ffrwd we yw Syndicetiad Syml Iawn[1] neu RSS (RDF Site Summary neu Really Simple Syndication)[2][3] sy'n galluogi defnyddwyr a rhaglenni i gael mynediad at ddiweddariadau i wefannau mewn fformat safonol y gellir ei ddarllen gan gyfrifiadur. Gall tanysgrifio i ffrydiau RSS ganiatáu i ddefnyddiwr gadw golwg ar lawer o wahanol wefannau mewn un cydgrynhoad newyddion, sy'n monitro gwefannau yn gyson am gynnwys newydd, gan ddileu'r angen i'r defnyddiwr eu gwirio fesul gwefan. Gall cydgrynwyr newyddion (neu "ddarllenwyr RSS") gael eu cynnwys mewn porwr, eu gosod ar gyfrifiadur desg, neu eu gosod ar ddyfais symudol.

RSS
Enghraifft o'r canlynolIaith tagio, fformat XML, ffrwd we Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMawrth 1999 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gwefannau fel arfer yn defnyddio ffrydiau RSS i gyhoeddi gwybodaeth sy'n cael ei diweddaru'n aml, megis cofnodion blog, penawdau newyddion, penodau o gyfresi sain a fideo, neu ar gyfer dosbarthu podlediadau. Gall dogfen RSS (a elwir yn "ffrwd", "ffrwd wew", neu "sianel") gynnwys testun llawn neu gryno, a metadata, megis dyddiad cyhoeddi ac enw'r awdur. Mae fformatau RSS yn cael eu pennu gan ddefnyddio ffeil XML generig.

Er bod fformatau RSS wedi datblygu mor gynnar â Mawrth 1999,[4] dechreuodd RSS gael ei ddefnyddio'n eang rhwng 2005 a 2006, a phenderfynodd sawl porwr gwe mawr ddefnyddio'r eicon ("").[5] Mae data ffrwd RSS yn cael ei gyflwyno i ddefnyddwyr gan ddefnyddio meddalwedd a elwir yn 'gydgrynwr newyddion' a'r enw ar drosglwyddo cynnwys yw syndicetiad gwe. Tanysgrifia defnyddwyr i ffrwd naill ai drwy fewnbynnu URI ffrwd i'r darllenydd neu drwy glicio ar eicon ffrwd y porwr. Mae'r darllenydd RSS yn gwirio ffrwd y defnyddiwr yn rheolaidd am wybodaeth newydd a gall ei lawrlwytho'n awtomatig, os yw'r swyddogaeth honno wedi'i galluogi.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Saesneg: Really Simple Syndication Cymraeg: Syndicetiad Syml Iawn". TermCymru (Llywodraeth Cymru). 26 Mawrth 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-03-15. Cyrchwyd 15 Mawrth 2024. line feed character in |title= at position 35 (help)
  2. Powers 2003, t. 10: "Another very common use of RDF/XML is in a version of RSS called RSS 1.0 or RDF/RSS. The meaning of the RSS abbreviation has changed over the years, but the basic premise behind it is to provide an XML-formatted feed consisting of an abstract of content and a link to a document containing the full content. When Netscape originally created the first implementation of an RSS specification, RSS stood for RDF Site Summary, and the plan was to use RDF/XML. When the company released, instead, a non-RDF XML version of the specification, RSS stood for Rich Site Summary. Recently, there has been increased activity with RSS, and two paths are emerging: one considers RSS to stand for Really Simple Syndication, a simple XML solution (promoted as RSS 2.0 by Dave Winer at Userland), and one returns RSS to its original roots of RDF Site Summary (RSS 1.0 by the RSS 1.0 Development group)."
  3. Libby, Dan (10 Gorffennaf 1999). "RSS 0.91 Spec, revision 3". Netscape ttem. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Rhagfyr 2000. Cyrchwyd 14 Chwefror 2007.
  4. "My Netscape Network: Quick Start". Netscape Communications. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Rhagfyr 2000. Cyrchwyd 31 Hydref 2006.
  5. "Icons: It's still orange". Microsoft RSS Blog. 14 Rhagfyr 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2005. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2008.

Dolenni allanol

golygu