Peiriant sy'n chwilio am gyfeiriadau a gwybodaeth ar y we fyd-eang yw porwr gwe (neu beiriant chwilio'r rhyngrwyd). Mae'n defnyddio hypergysylltiadau sy'n bresennol mewn gwefannau er mwyn asesu pwysigrwydd gwefan a'u rhestru ar ffurf hits, gyda'r gwefanau mwyaf perthnasol neu bwysicaf ar frif y ddalen. Ma porwyr da yn cyrchu'r wybodaeth a geisir yn sydyn, o fewn eiliadau. Gall hefyd gyflwyno'r 'hits' ar ffurf galeri o luniau neu fideos.

Enghraifft o borwr gwe sy'n cyfyngu ei faes i un wefan, sef Comin Wicimedia.

Un o'r mwyaf o ran faint a phoblogrwydd ar y we yw Google, gyda fersiynau ar gyfer dros gant o ieithoedd y byd, yn cynnwys y Gymraeg.

Mae rhai porwyr hefyd yn cyrchu gwybodaeth o fewn cronfeydd data neu gyfeiriaduron gwe (rhestr o wefannau wedi'u trefnu i gategoriau ac isgategoriau. Yn wahanol i gyfeiriaduron gwe, fodd bynnag, sy'n cael eu gweithio gydallaw a llygad dynol, mae'r porwr gwe yn gweithio ar wybodaeth byw, drwy redeg algorithmau otomatig a byw. Yn aml, rhagflaenir y porwr gan ymgripiwr gwe sy'n pori'r We Fyd-Eang mewn ffordd fanwl, otomatig, gan gyrchu'r data diweddaraf.

Dyfeisiwyd Peiriannau chwilio rhyngrwyd cyn porwyr gwe hy cyn Rhagfyr 1990. Er enghraifft, rhoddwyd y peiriant Whois at ei gilydd yn 1982.[1] a Knowbot Information Service aml-rwydwaith yn 1989.[2] 'Archie' oedd enw'r peiriant chwilio sylweddol cyntaf i chwilio o fewn ffeiliau llawn cynnwys (content files), sef FTP a lansiwyd ar 10 Medi 1990.

Preifatrwydd golygu

Mae'r peiriannau chwilio mawr fel Google ac AOL i gyd yn cadw manylion personol o bob math, yn cynnwys cyfeiriad IP y defnyddiwr a'r termau a chwilwyd ayyb, heb wybod i'r defnyddiwr ac yn barod i'w trosglwyddo i gwmnïau neu hyd yn oed i lywodraethau. Mae'r ychydig o eithriadau i'r drefn yn cynnwys Scroogle, sy'n defnyddio Google ei hun ond yn deithrio manylion y defnyddiwr, a'r peiriant metachwilio arloesol Ixquick, sy ddim yn cadw unrhyw fanylion personol o gwbl bellach, yn cynnwys cyfeiriadau IP.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "RFC 812 - NICNAME/WHOIS". ietf.org.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2016-08-07.