Biolegydd morol, cadwraethwraig ac awdur o'r Unol Daleithiau oedd Rachel Louise Carson (27 Mai 190714 Ebrill 1964). Mae ei hysgrifau wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r mudiad amgylcheddol rhyngwladol.

Rachel Carson
Ganwyd27 Mai 1907 Edit this on Wikidata
Rachel Carson Homestead Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 1964 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Silver Spring Edit this on Wikidata
Man preswylSilver Spring, Rachel Carson House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbotanegydd morol, amgylcheddwr, swolegydd, awdur ysgrifau, awdur, cadwriaethydd, awdur ffeithiol, llenor, Canu cloch Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau
  • Prifysgol Maryland, College Park Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSilent Spring, The Sea Around Us, The Edge of the Sea Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAldo Leopold Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Medal John Burroughs, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Genedlaethol am Lyfr Ffeithiol, Gwobra Cullum mewn Daearyddiaeth, Audubon Medal, AAAS Kavli Science Journalism Award, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rachelcarson.org Edit this on Wikidata

Roedd ei llyfr The Sea Around Us ("Y Môr o'n Gwmpas", 1951) yn llwyddiannus iawn, ac fe'i cyfieithwyd i 28 o ieithoedd. Dilynwyd hyn gan nifer o lyfrau eraill am y môr.

Oherwydd ei llwyddiant fel awdur, tynnodd ei llyfr Silent Spring ("Gwanwyn Distaw", 1962) sylw rhyngwladol at beryglon plaladdwyr i'r amgylchedd. Arweiniodd y llyfr i wrthwynebiad ffyrnig o gwmnïau cemegol, ond daeth newidiadau mawr yn y rheoliadau ar ddefnyddio plaladdwyr yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill, gyda gwaharddiad ar ddefnyddio DDT a phlaladdwyr eraill.

Ar ôl ei marwolaeth, dyfarnwyd Rachel Carson Medal Rhyddid yr Arlywydd gan yr Arlywydd Jimmy Carter.

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.