Jimmy Carter

39ain arlywydd Unol Daleithiau America

39ain Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1977 a 1981 oedd James Earl "Jimmy" Carter, Jr. (1 Hydref 192429 Rhagfyr 2024). Yn 2002 enillodd Wobr Heddwch Nobel am ei waith dros hawliau dynol.

yr Arlywydd James Earl Carter, Jr.
Jimmy Carter


Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 1977 – 20 Ionawr 1981
Is-Arlywydd(ion)   Walter Mondale
Rhagflaenydd Gerald Ford
Olynydd Ronald Reagan

Geni 1 Hydref 1924
Plains, Georgia, UDA
Marw 29 Rhagfyr 2024(2024-12-29) (100 oed)
Plaid wleidyddol Democratwr
Priod Rosalynn Carter
Llofnod

Cafodd Carter ei eni yn nhalaith Georgia. Bu farw yn ei dref enedigol, Plains.[1]

Perthynas â Chymru

golygu

Roedd Jimmy Carter yn hoff iawn o waith Dylan Thomas a gwnaeth sawl ymweliad â Chymru. Ym Mehefin 1986, daeth ar wyliau i Dregaron, a mynd i bysgota gyda’r arbenigwr pysgota, Moc Morgan a’i fab Hywel.[2]. Ym 1995, daeth Carter i Abertawe i agor Canolfan Dylan Thomas, ac yn ddiweddarach defnyddiwyd ei lais mewn taith glyweled yn man geni Thomas.[3]

Llyfryddiaeth

golygu

Ymhlith y llyfrau a gyhoeddodd y mae Palestine: Peace Not Apartheid.

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod a Rosalynn am 77 mlynedd cyn ei marwolaeth yn Nhachwedd 2023. Bu farw yntau yn 100 mlwydd oed ar 29 Rhagfyr 2024. Roedd ganddynt bedwar o blant.[4] Dywedodd ei fab Chip bod Jimmy Carter yn arwr i bawb sy'n gwerthfawrogi heddwch.[1] Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, bod Carter yn “ddyn rhyfeddol”.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Cyn-arlywydd America, Jimmy Carter, wedi marw'n 100 oed". Newyddion S4C. 30 Rhagfyr 2024. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2024.
  2. "Cofio mynd i bysgota gyda Jimmy Carter yn 1986". BBC Cymru Fyw. 2024-10-01. Cyrchwyd 2024-12-29.
  3. "Jimmy Carter to welcome visitors to Dylan Thomas house". BBC News (yn Saesneg). 9 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2024.
  4. "Y cyn-arlywydd Carter, a fu'n pysgota yng Nghymru, wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2024-12-30. Cyrchwyd 2024-12-30.
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.