Rachel Rice
actores a aned yn 1984
Actores a model yw Rachel Rice (ganwyd 7 Mawrth 1984), sy'n fwyaf enwog am fod yn enillydd ar raglen Saesneg Big Brother yn 2008. Hi yw'r Gymraes gyntaf i ennill y rhaglen.[1] Mae ganddi radd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Drama, ac mae'n athrawes yn Ysgol Uwchradd Abersychan.
Rachel Rice | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mawrth 1984 Torfaen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, model, actor ffilm |
Gwefan | http://www.rachel-rice.co.uk/ |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Dechreuodd actio yn y ffilm Night train to Venice yn 1993 a arweiniodd at nifer o rannau eraill mewn ffilmiau ac ar y teledu.
Yn Big Brother 2008, enillodd gefnogaeth am ei phersonoliaeth gref a'i phen gadarn wrth wynebu ymosodiadau wrth gystadleuthwyr eraill. Tra yn y tŷ gwnaeth ffrindiau gyda chyd-gystadleuwyr Kathreya, Darnell, Mikey, Mohammed a Rex. Enillodd y rhaglen gyda 51% o'r bleidlais derfynol rhyngddi a Mikey.
Ffilmiau
golyguBlwyddyn | Ffilm/Teledu | Rôl |
---|---|---|
2008 | Big Brother 2008 DU | Ei hun (Enillydd) |
2007 | The History of Mr Polly | Ffrind Christabel |
2001 | Happy Now | Ail gystadleuwr |
1996 | The Prince and the Pauper | Prissy |
1995 | Mister Dog | Giulia |
1994 | The Lifeboat | Debbie |
1994 | The Adventures of Sherlock Holmes | Marina Savage |
1993 | Night Train to Venice | Pia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Smith, Lizzie (6 Medi 2008). "Big Brother: Rachel beats the bookies to become shock winner". London: Mail Online. Cyrchwyd 2008-09-07.
Dolen Allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Swyddogol