Radio Beca
Cyfrwng ar gyfer newid pethau yng ngorllewin Cymru yw Radio Beca.
Radio Beca | |
Ardal Ddarlledu | Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion |
---|---|
Pencadlys | 2 Bryn Salem, Lampeter, Dyfed SA48 8AE |
Perchennog | Cwmni cydweithredol |
Gwefan | www.radiobeca.cymru |
Mae'n darlledu drwy sawl cyfrwng gwahanol, gan gynnwys ar y we. Mae modd i bawb yn y gorllewin ddefnyddio radio Beca i ddarlledu unrhyw beth sy'n bwysig iddyn nhw a defnyddio cyfryngau Beca i ledu'r negeseuon hynny ymhellach. Mae radio Beca'n hyfforddi pobol yn eu cymdogaethau i ddefnyddio'r gliniadur, yr i-phone a'r i-pad ar gyfer creu rhaglenni yn lleol i'w darlledu ar draws tonfeddi radio Beca.
Caiff yr orsaf ei hariannu drwy dâl aelodaeth o ganpunt. Cyfarwyddwr cynta'r cwmni oedd Dylan Euros Lewis.