Radio Nisaa 96 FM
Gorsaf radio yn Ramallah, Palesteina yw Radio Nisaa 96 FM (hefyd: NISAA FM neu Radio Nisaa). Mae'n disgrifio ei hun fel "radio masnachol, anwleidyddol sydd â chenhadaeth i ddiddanu, hysbysu, ysbrydoli a galluogi merched Palesteina.[1] Cafodd ei lawnsio ar 20 Mehefin 2010 yn Ramallah gyda chymorth a nawdd y Smiling Children Foundation. Dyma'r orsaf radio gyntaf ar gyfer merched ym Mhalesteina.
Radio Nisaa 96 FM | |
Ardal Ddarlledu | Palesteina |
---|---|
Dyddiad Cychwyn | 20 Mehefin 2010 |
Tonfedd | FM: 96 |
Pencadlys | Ramallah, Y Lan Orllewinol |
Perchennog | Radio Nisaa |
Gwefan | www.radionisaa.ps |
Mae mwyafrif y staff yn ferched. Maent yn gweithio tuag at gael "integreiddio llawn a chyfartal i ferched yn y gymdeithas Balesteinaidd trwy gynyddu cyfathrach agored ac effeithiol rhwng merched yn y Lan Orllewinol ac yn Llain Gaza". Trwy wefan yr orsaf a chyfryngau digidol eraill, bydd merched Palesteinaidd yn gallu cyfrannu i'r orsaf yn uniongrychol ac felly'n cymryd rhan yn y fenter yn hytrach na bod yn wrandawyr yn unig. Er hynny, y gobaith yw bydd dynion yn dod yn wrandawyr hefyd.[2]
Cynigir gwasanaeth amrywiol sy'n cynnwys newyddion, cerddoriaeth, a rhaglenni am gymdeithas Palesteina gyda'r pwyslais ar le merched ynddi.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 'About', Radio Nisaa 96 FM.
- ↑ 'Une radio par et pour les femmes en Cisjordanie' Archifwyd 2010-06-25 yn y Peiriant Wayback, Radiomag.ch. 21 Mehefin 2010.
- ↑ Gwybodaeth Archifwyd 2010-06-25 yn y Peiriant Wayback, gwefan Nisaa FM
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Nisaa FM Archifwyd 2010-06-25 yn y Peiriant Wayback (Arabeg) (Saesneg)
- Tudalen am yr orsaf Archifwyd 2010-06-25 yn y Peiriant Wayback ar wefan Radio Mag (Ffrangeg)