Math rali drawsgwlad o ras fodur all-ffordd yw Rali Dakar (yn gynt Rali Paris-Dakar), a gynhelir gan yr Amaury Sport Organisation yn flynyddol. Ers ei dechreuad ym 1978 bu'r mwyafrif o rasys o Baris, Ffrainc, i Dakar, Senegal, ond o ganlyniad i fygythiadau diogelwch ym Mauritania yn 2008, rhedwyd ras 2009 yn Ne America (yr Ariannin a Tsile), y tro cyntaf i'r ras gael ei chynnal y tu allan i Ewrop ac Affrica. Cynhaliwyd cystadleuthau dilynol yn Ne America. Mae'r ras yn agored i amaturiaid, sydd yn gyffredinol yn 80% o'r holl ymgeiswyr, ac ymgeiswyr phroffesiynol.

Y Ffrancwr Thierry Sabine, sylfaenydd y gystadleuaeth, ym mhorth Alger deg diwrnod cyn ei farwolaeth adeg Rali Dakar 1986

Er ei henw, ras ddygnwch all-ffordd, neu rali drawsgwlad (rally raid), yn hytrach na rali gonfensiynol yw Rali Dakar. Mae'r tir yn galetach a'r cerbydau yn foduron all-ffordd gwir yn hytrach na'r cerbydau ar-ffordd addasedig a ddefnyddiwyd mewn ralïau. All-ffordd yw'r rhan fwyaf o adrannau arbennig cystadleuol y ras, gan ofyn i'r ymgeiswyr groesi twyni, mwd, glaswellt camelod, creigiau, a thwyndiroedd. Mae pellter pob cam yn amrywio o bellteroedd byrion i 800–900 km y diwrnod.