Ramzi Yousef
Terfysgwr Kuwaitaidd o linach gymysg Pacistanaidd a Phalesteinaidd sy'n enwocaf am ei ran mewn cynllunio ymosodiad ar Ganolfan Masnach y Byd yn 1993 yw Ramzi Ahmed Yousef neu Ramzi Mohammed Yousef (Arabeg: رمزي يوسف). Fe'i arestiwyd yn Islamabad yn 1995 a'i estraddodi i'r Unol Daleithiau, lle gafodd ei roi ar brawf yn Ninas Efrog Newydd a'i ddyfarnu'n euog, ynghŷd â dau o'i gyd-gynllwynwyr, o gynllunio Cynllwyn Bojinka. Dywedodd Yousef, "rydw i'n derfysgwr, ac yn falch o hynny cyn belled â'i bod yn erbyn llywodraeth yr Unol Daleithiau".[1] Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes heb barôl. Khalid Shaikh Mohammed, aelod hŷn o al-Qaeda sydd hefyd dan warchodaeth yr Unol Daleithiau, yw ewythr Yousef.
Ramzi Yousef | |
---|---|
Ganwyd | 27 Ebrill 1968, 20 Mai 1967 Coweit |
Dinasyddiaeth | Pacistan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | terfysgwr |
Nodiadau
golygu- ↑ (Saesneg) 'Proud terrorist' gets life for Trade Center Bombing. CNN.com (8 Ionawr, 1998). Adalwyd ar 28 Mawrth, 2008.
- ↑ (Saesneg) Producer's Notebook: My Trip To Supermax. CBS (21 Mehefin 2009). Adalwyd ar 15 Medi 2012.
Llyfryddiaeth
golygu- Simon Reeve (1999). The New Jackals: Ramzi Yousef, Osama bin Laden and the future of terrorism. André Deutsch Limited. ISBN 0233050485