Gwlad Arabaidd yng ngorllewin Asia a'r Dwyrain Canol ar arfordir Gwlff Persia yw Coweit[1] (Arabeg: الكويت‎). Yn swyddogol, ei henw yw "Gwladwriaeth Coweit" (Dawlat al-Kuwayt). Fe'i lleolir rhwng de-orllewin Irac a gogledd-ddwyrain Sawdi Arabia yng ngorllewin Asia, ar ben eithaf Gwlff Persia.

Coweit
Gwladwriaeth Coweit
دَوْلَةُ ٱلْكُوَيْت (Arabeg)
(Ynganiad: Dawlat al-Kuwayt)
Mathgwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
PrifddinasDinas Coweit Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,464,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd1752 (ffurfiwyd)
19 Mehefin 1961 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU))
28 Awst 1990 (Llywodraethwlad Coweit)
AnthemAnthem Genedlaethol Coweit Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSabah Al-Khalid Al-Sabah Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Asia/Kuwait Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, Gwladwriaethau'r Gwlff Edit this on Wikidata
GwladCoweit Edit this on Wikidata
Arwynebedd17,818 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIrac, Irac, Parth Niwtral Saudi-Koweit, Sawdi Arabia, Iran Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau29.16667°N 47.6°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Coweit Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Coweit Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
emir Coweit Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMishal Al-Ahmad Al-Jaber Al-Sabah Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Coweit Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSabah Al-Khalid Al-Sabah Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$136,797 million, $184,558 million Edit this on Wikidata
ArianKuwaiti dinar Edit this on Wikidata
Canran y diwaith3 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.105 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.831 Edit this on Wikidata

Mae'r enw'n tarddu o'r Arabeg أكوات ākwāt, كوت kūt, sy'n golygu "Caer a godwyd ar fin y dŵr".[2] Mae ei harwynebedd yn 17,820 cilometr sgwâr (6,880milltir sgwâr) ac mae ei phoblogaeth fymryn yn llai na Chymru: 2.8 miliwn.[3]

Rhyfel y Gwlff

golygu

Enwau eraill ar y rhyfel yw "Rhyfel Irac 1" neu "Operation Desert Storm" a gafodd ei ymladd gan 34 o genhedloedd yn erbyn Irac rhwng 2 Awst 1990 a 28 Chwefror 1991. Unwyd y gwledydd hyn gan y Cenhedloedd Unedig o dan arweiniad Unol Daleithiau America. Digwyddodd y rhyfel fel ymateb i ymosodiad Irac ar Goweit ar 2 Awst 1990. Ar unwaith digwyddodd dau beth: symudodd yr Unol daleithiau ei llynges arfog i'r ardal ac yn ail ymatebodd nifer o genhedloedd gyda sancsiynau economaidd yn erbyn Irac.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [Kuwait].
  2. Lesko, John P. "Kuwait," World Education Encyclopedia: A Survey of Educational Systems Worldwide, cyfrol. 2, golygwyd gan Rebecca Marlow-Ferguson. Detroit, MI: Gale Group, 2002.
  3. "Kuwait". CIA World Factbook. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-21. Cyrchwyd 2013-09-13. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Goweit. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.