Iliad
Un o'r ddwy gerdd fawr a briodolir i'r bardd Groeg Homeros ydy'r Iliad (Groeg Ιλιάδα). Y llall ydy'r Odyseia.
Braslun o'r cynllun
golyguYn yr Iliad, ceir rhan o hanes Rhyfel Caerdroea, a achoswyd pan gafodd Elen, gwraig hardd Menelaos brenin Sparta, ei hudo gan yr arwr Paris a'i chymryd i Gaerdroea.
Mae byddin Roegaidd dan arweiniad Agamemnon hwylio o Wlad Roeg ac yn gwarchae ar ddinas Caerdroea, ar affordir gogledd-orllewin Anatolia. Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yw Achilles, sy'n fab i'r dduwies Thetis. Pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn afon Styx fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo. Ymysg arwyr eraill y Groegiaid mae Aias ac Odysseus. Prif arwr Caerdroea yw Hector, mab y brenin Priam.
Llinellau cyntaf yr Iliad yw:
- μῆνιν ἄειδε θεὰ Πηληϊάδεω Ἀχιλῆος
- οὐλομένην, ἣ μυρί' Ἀχαιοῖς ἄλγε' ἔθηκεν,
- Cenwch, dduwiesau, am ddicter mab Peleus, Achilles
- y dicter melltigedig ddaeth a phoen i filoedd o'r Acheaid.
Llyfryddiaeth
golyguTroswyd rhannau o'r Iliad i'r Gymraeg gan R. Morris Lewis:
- R. Morris Lewis, Iliad Homer, gyda rhagymadrodd a nodiadau gan T. Gwynn Jones (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1928)