Dechreuodd rasio ceir yn fuan wedi datblyfiad y ceir cyntaf, ac mae'n boblogaidd trwy ran helaeth y byd. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf yn 1894, wedi ei threfnu gan y cylchgrawn Le Petit Journal, sef ras o Baris i Rouen. Roedd y ras yn cynnwys ceir gan wneuthurwyr enwog fel Karl Benz, Gottlieb Daimler a Wilhelm Maybach. Roedd hon yn brawf ar ddibynolrwydd y ceir yn hytrach na chyflymdra, ond yn 1895 cafwyd y ras go-iawn gyntaf, o Baris i Bordeaux.

Juuso Pykälistö yn gyrru Peugeot 206 yn Rali Sweden 2003.

Ymhlith y mathau mwyaf poblogaidd o rasio ceir heddiw mae rasio Fformiwla Un a rasio rali.

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon modur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.