Ratatouille (ffilm)
ffilm am gyfeillgarwch am y cyfnod glasoed gan y cyfarwyddwyr Brad Bird a Jan Pinkava a gyhoeddwyd yn 2007
(Ailgyfeiriad o Ratatouille (ffilm 2007))
Mae Ratatouille yn ffilm deuluol wedi'i hanimeiddio gan gyfrifiadur yn 2007. Cynhyrchwyd y ffilm gan Pixar a'i dosbarthu gan Ffilmiau Walt Disney. Dyma oedd yr wythfed ffilm i'w chynhyrchu gan Pixar a chafodd ei chyfarwyddo gan Brad Bird, a gymrodd drosodd o Jan Pinkava yn 2005. Rhyddhawyd y ffilm ar 29 Mehefin 2007 yn yr Unol Daleithiau i gymeradwyaeth fawr wrth y beirniaid a bu'n llwyddiannus yn y sinemau. Cyfeiria deitl y ffilm i bryd o fwyd Ffrengig - ratatouille - a arlywir yn y ffilm ond mae hefyd yn mwyseirio rhywogaeth y prif gymeriad.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Brad Bird Jan Pinkava |
Cynhyrchydd | Brad Lewis |
Ysgrifennwr | Jan Pinkava Jim Capobianco Brad Bird Emily Cook Kathy Greenberg |
Serennu | Patton Oswalt Lou Romano Peter Sohn Brad Garrett Janeane Garofalo Ian Holm Brian Dennehy Peter O'Toole |
Cerddoriaeth | Michael Giacchino |
Sinematograffeg | Robert Anderson Sharon Calahan |
Golygydd | Darren T Holmes |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Walt Disney Pictures a Pixar Animation Studios |
Dyddiad rhyddhau | 29 Mehefin, 2007 |
Amser rhedeg | 111 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Adolygiad BBC Cymru'r Byd | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Cymeriadau
- Rémy - Patton Oswalt
- Alfredo Linguini - Lou Romano
- Colette Tatou - Janeane Garofalo
- Skinner - Ian Holm
- Anton Ego - Peter O'Toole
- Auguste Gusteau - Brad Garrett
- Django - Brian Dennehy
- Emile - Peter Sohn
- Mustafa - John Ratzenberger