Peter O'Toole
Actor o Loegr oedd Peter Seamus Lorcan O'Toole[1][2] (2 Awst 1932 – 14 Rhagfyr 2013).[3] Daeth i sylw byd-eang ym 1962 pan chwaraeodd ran T. E. Lawrence yn y ffilm epig Lawrence of Arabia. Cynigiwyd ei enw ar gyfer wyth Gwobr yr Academi a hynny ar gyfer: Lawrence of Arabia (1962), Becket (1964), The Lion in Winter (1968), Goodbye, Mr. Chips (1969), The Ruling Class (1972), The Stunt Man (1980), My Favorite Year (1982) a Venus (2006). Enillodd bedair gwobr Golden Globes, un wobr BAFTA ac un Emmy, ac yn 2003 cafodd ei anrhydeddu gyda Honorary Academy Award.
Peter O'Toole | |
---|---|
Ganwyd | Peter Seamus Lorcan O’Toole 2 Awst 1932 Leeds |
Bu farw | 14 Rhagfyr 2013 Wellington Hospital, London |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llais, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, actor ffilm, actor, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu, awdur, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, llenor |
Arddull | ffilm ryfel, ffilm ddrama, ffilm antur, ffilm epig, historical drama film, ffilm hanesyddol, ffilm llawn cyffro, ffilm am berson, ffilm gyffro |
Prif ddylanwad | Eric Porter |
Taldra | 188 centimetr |
Priod | Siân Phillips |
Plant | Kate O'toole, Lorcan O'toole |
Gwobr/au | Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Golden Globe Award for New Star of the Year – Actor, Golden Globe Award for New Star of the Year – Actor, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr David di Donatello am yr Actor Estron Gorau, Gwobr David di Donatello am yr Actor Estron Gorau, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr Bwrdd Cenedlaethol Adolygiadau Ffilm am yr Actor Gorau, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Bwrdd Cenedlaethol Adolygiadau Ffilm am yr Actor Gorau, Gwobr David di Donatello am yr Actor Estron Gorau, Gwobr Cymdeithas Genedlaethol Adolygwyr Ffilm i'r Actor Gorau, David di Donatello for Best Supporting Actor, Golden Globes, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie |
Tra yn y coleg yn y 1950au, gwrthwynebai ymyrriad Lloegr yn Rhyfel Corea a Rhyfel Fietnam yn y 1960au. Priododd yr actores Siân Phillips ym 1959 a chawsant ddwy ferch: Kate a Patricia. Ysgarodd y O'Toole a Siân ym 1979.[4] Cafodd O'Toole a'i bartner Karen Brown fab (Lorcan Patrick O'Toole) a anwyd ar 17 Mawrth 1983, pan oedd O'Toole yn 50 oed.[5]
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Peter Seamus O'Toole ym 1932. Mae rhai ffynonellau'n nodi ei fan geni fel Connemara, Swydd Galway, Iwerddon, ac eraill yn nodi Leeds, Lloegr, ble cafodd ei fagu. Ni wyddai O'Toole ei hun yr union fan, na'r union ddyddiad. Yn ei hunangofiant mae'n nodi'r ail o Awst. Roedd ganddo dystysgrif geni o'r ddwy wlad gyda'r ddogfen o Iwerddon yn nodi Mehefin 1932.[2] Constance Jane Eliot (née Ferguson) oedd enw'i fam, Albanes [6] o nyrs, a Patrick Joseph O'Toole, oedd enw'i dad a oedd yn Wyddel ac a weithiai gyda metel, chwaraewr pêl-droed a bwci ceffylau.[7][8][9] Pan oedd O'Toole yn flwydd oed aeth ei deulu ar daith pum mlynedd o drefi rasio ceffylau yng Ngogledd Lloegr. Cafodd ei fagu'n Babydd.[10][11]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dihangodd Leeds fel faciwi. Treuliodd saith neu wyth mlynedd yn Ysgol Uwchradd Babyddol St Joseph's yn Holbeck, Leeds, ble anogwyd ef i beidio a defnyddio'i law chwith i sgwennu. “I used to be scared stiff of the nuns: their whole denial of womanhood – the black dresses and the shaving of the hair – was so horrible, so terrifying,” meddai'n ddiweddarach, “Of course, that's all been stopped. They're sipping gin and tonic in the Dublin pubs now, and a couple of them flashed their pretty ankles at me just the other day.”[12]
Wedi gorffen ei gyfnod yn yr ysgol, dechreuodd weithio fel cyw newyddiadurwr gyda'r Yorkshire Evening Post, nes iddo gael ei alw fel consgript gyda Llynges Frenhinol Lloegr.
Yna rhwng 1952 a 1954 bu'n fyfyriwr yn y Royal Academy of Dramatic Art (RADA), wedi derbyn ysgoloriaeth. Cafodd ei wrthod fodd bynnag gan ysgol ddrama yn Nulyn gan nad oedd yn siarad Gwyddeleg. Cyfoedion iddo yn RADA oedd Albert Finney, Alan Bates a Brian Bedford. Disgrifwyd y dosbarth ganddo fel y dosbarth mwyaf hynod a fu ers sefydlu'r coleg: "the most remarkable class the academy ever had, though we weren't reckoned for much at the time. We were all considered dotty."[13]
Marwolaeth
golyguBu farw O'Toole ar 14 Rhagfyr 2013 yn Ysbyty Wellington, Llundain, yn 81 oed wedi gwaeledd hir.[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Peter O'Toole, Esq Archifwyd 2013-10-23 yn y Peiriant Wayback Debrett's Limited. 2013. Adalwyd 22 Hydref 2013
- ↑ 2.0 2.1 O'Toole, Peter (1992). Loitering With Intent. London: Macmillan London Ltd. t. 10. ISBN 1-56282-823-1.
- ↑ "Peter O'Toole (Irish actor) – Britannica Online Encyclopedia". Britannica.com. 2 Awst 1932. Cyrchwyd 12 Mehefin 2012.
- ↑ Nathan Southern (2008). "Peter O'Toole profile". Allrovi. MSN Movies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-10. Cyrchwyd 4 Ebrill 2008.
- ↑ Standing, Sarah (15 Rhagfyr 2013). "Remembering Peter O'Toole". GQ. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-15. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2013.
- ↑ O'Toole, Peter, Loitering with Intent: Child (Large print edition), Macmillan London Ltd., London, 1992. ISBN 1-85695-051-4; tud. 10, "My mother, Constance Jane, had led a troubled and a harsh life. Orphaned early, she had been reared in Scotland and shunted between relatives;..."
- ↑ "Peter O'Toole Biography". filmreference. 2008. Cyrchwyd 4 Ebrill 2008.
- ↑ Frank Murphy (31 Ionawr 2007). "Peter O'Toole, A winner in waiting". The Irish World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-09. Cyrchwyd 4 Ebrill 2008. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ "Loitering with Intent Summary – Peter O'Toole – Magill Book Reviews". Enotes.com. Cyrchwyd 12 Mehefin 2012.[dolen farw]
- ↑ Tweedie, Neil (24 Ionawr 2007). "Too late for an Oscar? No, no, no...". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 11 Medi 2010.
- ↑ Adams, Cindy (21 Mawrth 2008). "Veteran says todays's actors aren't trained". New York Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-30. Cyrchwyd 7 Hydref 2010.
- ↑ Alan Waldman. "Tribute to Peter O'Toole". films42.com. Cyrchwyd 4 Ebrill 2008.
- ↑ Guy Flatley (24 Gorffennaf 2007). "The Rule of O'Toole". MovieCrazed. Cyrchwyd 4 Ebrill 2008.
- ↑ Booth, Robert (2013) "Peter O'Toole, star of Lawrence of Arabia, dies aged 81", theguardian.com, 15 Rhagfyrr 2013. Adalwyd 15 Rhagfyr 2013