Ray Price
Canwr gwlad, ysgrifennwr caneuon, a gitarydd Americanaidd oedd Noble Ray Price (12 Ionawr 1926 - 16 Rhagfyr 2013). Cyfeirir ato fel "The Cherokee Cowboy". Ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae "Release Me", "Crazy Arms", "Heartaches by the Number", "For the Good Times", "Night Life", ac "You're the Best Thing That Ever Happened to Me".
Ray Price | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ionawr 1926 Wood County |
Bu farw | 16 Rhagfyr 2013 Mount Pleasant |
Label recordio | Columbia Records, Dot Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cerddor canu gwlad, canwr, gitarydd, cyfansoddwr caneuon, artist recordio |
Arddull | canu gwlad |
Cafodd ei eni ger Perryville, yn Swydd Wood, Texas ym 1926 yn fab i Walter Clifton Price a Clara Mae Bradley Cimini.
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.