Rebecca (ffilm 1940)
Mae Rebecca (1940) yn ffilm gyffro seicolegol a gyfarwyddwyd gan Alfred Hitchcock. Dyma oedd ei brosiect Americanaidd cyntaf a chynhyrchwyd ei ffilm gyntaf mewn cytundeb gyda David O. Selznick. Roedd sgript y ffilm yn addasiad Joan Harrison a Robert E. Sherwood o addasiad Philip MacDonald a Michael Hogan o nofel o'r un enw gan Daphne du Maurier ym 1938. Cynhyrchwyd y ffilm gan Selznick. Mae'r ffilm yn serennu Laurence Olivier fel Maxim de Winter, Joan Fontaine fel ei ail wraig a Judith Anderson fel morwyn ei wraig farw, Mrs. Danvers.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Alfred Hitchcock |
Cynhyrchydd | David O. Selznick |
Ysgrifennwr | Nofel wreiddiol: Daphne du Maurier Addasiad: Philip MacDonald Michael Hogan Sgript: Joan Harrison Robert E. Sherwood |
Serennu | Laurence Olivier Joan Fontaine Judith Anderson |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Selznick International Pictures United Artists |
Dyddiad rhyddhau | 12 Ebrill, 1940 |
Amser rhedeg | 130 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae'r ffilm yn hanes gothig am atgof parhaus y prif gymeriad, sydd yn effeithio Maxim, ei wraig newydd a Mrs Danvers ymhell wedi ei marwolaeth. Enillodd y ffilm ddwy o Wobr yr Academi, gan gynnwys y ffilm orau.
Cast
golygu- Laurence Olivier fel Maxim de Winter
- Joan Fontaine fel Yr Ail Mrs. de Winter
- George Sanders fel Jack Favell
- Judith Anderson fel Mrs. Danvers
- Nigel Bruce fel Major Giles Lacy
- Reginald Denny fel Frank Crawley
- C. Aubrey Smith fel Colonel Julyan
- Gladys Cooper fel Beatrice Lacy
- Florence Bates fel Mrs. Edythe Van Hopper
- Melville Cooper fel Coroner
- Leo G. Carroll fel Dr. Baker
- Leonard Carey fel Ben
- Lumsden Hare fel Tabbs
- Edward Fielding fel Frith
- Forrester Harvey fel Chalcroft
- Mary Williams - Y Prif Forwyn
- Keira Tate - Morwyn y Parlwr
- Rose Trace - Morwyn y Parlwr
- Sandra Phillip - Morwyn y Parlwr
- Kelly Sanderton - Morwyn y Parlwr
- Herietta Bodvon - Morwyn y Tŷ
Mae ymddangosiad cameo Hitchcock, sy'n nodwedd o'i ffilmiau, i'w weld tua diwedd y ffilm, pan mae i'w weld tu allan i flwch ffôn pan mae Jack yn gwneud galwad.