Laurence Olivier
Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Seisnig oedd Laurence Kerr Olivier OM, hefyd Marchog Baglor a Barwn Olivier (22 Mai 1907 – 11 Gorffennaf 1989), a enillodd nifer o wobrau am ei waith. Roedd yn un o actorion enwocaf ac uchaf ei barch yn yr 20g, ynghyd â'i gyfoedion John Gielgud, Peggy Ashcroft a Ralph Richardson. Chwaraeodd Olivier ystod o rôlau amrywiol ar lwyfan ac ar y sgrîn fawr, gan amrywio o drasiediau Groegaidd, Shakespeare i gomedïau Prydeinig ac Americanaidd.
Laurence Olivier | |
---|---|
Ganwyd | Laurence Kerr Olivier 22 Mai 1907 Dorking |
Bu farw | 11 Gorffennaf 1989 Gorllewin Sussex |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, gwleidydd, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor cymeriad, actor llwyfan, actor teledu, actor, cyfarwyddwr, dramodydd, cynhyrchydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Adnabyddus am | Marathon Man, Wuthering Heights, Hamlet, Richard III, Rebecca, Henry V |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Tad | Gerald Kerr Olivier |
Mam | Agnes Louise Crookenden |
Priod | Jill Esmond, Vivien Leigh, Joan Plowright |
Plant | Tamsin Olivier, Simon Tarquin Olivier, Richard Olivier, Julie-Kate Olivier |
Gwobr/au | Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Medal Albert, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Golden Globe Award for Best Actor in a Leading Role, Gwobr Feltrinelli, Sonning Prize, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Golden Raspberry Award for Worst Actor, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Marchog Faglor, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Miniseries or a Movie, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Miniseries or a Movie, Urdd Teilyngdod, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, British Academy of Film and Television Arts, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Donaldson, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim |
Gwefan | http://www.laurenceolivier.com |
Ef oedd cyfarwyddwr creadigol Theatr Genedlaethol y Deyrnas Unedig ac enwyd y prif lwyfan ar ei ôl. Caiff ei ystyried gan nifer fel actor gorau yr 20g. Derbyniodd Olivier bedair ar ddeg enwebiad am Oscar gan ennill dwy ohonynt am yr Actor Gorau a'r Ffilm Orau am Hamlet, a dwy wobr anrhydeddus gan gynnwys cerflun a thystysgrif. Enillodd bum Gwobr Emmy hefyd o'r naw y cafodd ei enwebu ar eu cyfer. Hefyd enillodd dair Golden Globe a BAFTA.
Gwragedd
golygu- Jill Esmond (1930-1940)
- Vivien Leigh (1940-1960)
- Joan Plowright (1961-1989)