Rebecca Evans (soprano)
Soprano a anwyd ym Mhontrhydyfen, Cwm Afan, Castell-nedd Port Talbot yw Rebecca Evans, CBE[1] (ganwyd Awst 1963).
Rebecca Evans | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 1963 Pontrhydyfen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, cerddor |
Math o lais | soprano |
Gwobr/au | CBE |
Astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, Llundain. Mae wedi perfformio'n rheolaidd gyda Opera Genedlaethol Cymru, Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden, a'r Bayerische Staatsoper, München.
Mae wedi sefydlu gyrfa opera gadarn yn yr Unol Daleithiau, lle mae wedi canu rhan Susanna (Le Nozze di Figaro) i Santa Fe Opera, Adele (Die Fledermaus) i Opera Lyric Chicago; Zerlina (Don Giovanni), Ann Trulove (The Rake’s Progress) a Adina (L'elisir d'amore) i Opera San Francisco; a Susanna a Zerlina i Dŷ Opera'r Metropolitan, Efrog Newydd.
Derbyniodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei gwasanaeth i faes y celfyddydau.[2]
Disgyddiaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Katie-Ann Gupwell; Lydia Stephens (9 Hydref 2020). "The full list of Welsh people honoured in Queen's Birthday Honours". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Hydref 2020.
- ↑ Anrhydeddau'r Frenhines am ymdrechion i atal Covid , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2020.