Redditch
Tref yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Redditch.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym Mwrdeistref Redditch; mae pencadlys y fwrdeistref yn y dref.
![]() | |
Math | tref, ardal ddi-blwyf ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Redditch |
Poblogaeth | 81,919 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Auxerre, Mtwara ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerwrangon (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 54,250,000 m² ![]() |
Uwch y môr | 130 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Stratford-upon-Avon ![]() |
Cyfesurynnau | 52.30694°N 1.94917°W ![]() |
![]() | |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 83,354.[2]
Yn y 19g daeth y dref yn ganolfan ryngwladol ar gyfer cynhyrchu nodwyddau a thac pysgota. Ar un adeg cynhyrchodd y dref a'r ardal gyfagos 90% o nodwyddau'r byd.
Ym 1964 dynodwyd Redditch yn dref newydd, a chyn bo hir cynyddodd y boblogaeth yn sylweddol. Crëwyd datblygiadau tai fel Church Hill, Matchborough, Winyates, Lodge Park a Woodrow o amgylch yr hen dref farchnad i ddarparu ar gyfer gorlif mawr o Birmingham.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Mawrth 2020
- ↑ City Population; adalwyd 21 Mawrth 2020
Dinas
Caerwrangon
Trefi
Bewdley · Bromsgrove · Droitwich Spa · Evesham · Kidderminster · Malvern · Pershore · Redditch · Stourport-on-Severn · Tenbury Wells · Upton-upon-Severn