Refferendwm annibyniaeth i Gyrdistan Irac, 2017

Cynhaliwyd refferendwm annibyniaeth i Gyrdistan Irac ar 25 Medi 2017. Yn ôl comisiwn etholiadol y Cyrdiaid, roedd 72% o bobl oedd yn gymwys wedi pleidleisio, a phleidleisiodd 92.73% ohonynt o blaid annibyniaeth Cyrdistan oddi ar Irac. Ni chydnabuwyd y refferendwm gan lywodraeth Irac.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cwrdiaid Irac yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, Golwg360 (27 Medi 2017). Adalwyd ar 27 Medi 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.