Rhanbarth y Dnieper (Wcráin)
Rhanbarth hanesyddol yn Wcráin yw rhanbarth y Dnieper (Wcreineg: Наддніпрянщина Naddnipryanshchyna, sef "Trawsdnipria") a leolir ar naill ochr Afon Dnieper yng ngogledd a chanolbarth y wlad.[1][2] Weithiau defnyddir yr enw yn gyfystyr â Chanolbarth Wcráin, neu Lan Chwith a Glan Dde Wcráin gyda'i gilydd. Fel rheol, nid yw rhanbarth y Dnieper yn crybwyll glannau'r afon yn Ne Wcráin, o'r hen raeadrau ger Dnipro hyd at yr aberoedd yn y Môr Du.
Map o ranbarth y Dnieper (melyn) o fewn ffiniau presennol Wcráin (gwyn). | |
Math | Ukrainian historical regions |
---|---|
Prifddinas | Kyiv |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Wcráin |
Cyfesurynnau | 49.32°N 32.74°E |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Magocsi, Paul Robert (2010). A History of Ukraine: A Land and Its Peoples (yn Saesneg). Toronto: University of Toronto Press. t. 378. ISBN 9781442640856.
- ↑ Wilson, Andrew (2015). The Ukrainians: Unexpected Nation (yn Saesneg) (arg. 4th). New Haven and London: Yale University Press. t. 28-29. ISBN 978-0-300-21725-4.