Glan Chwith Wcráin

Rhanbarth hanesyddol yn Wcráin oedd Glan Chwith Wcráin (Wcreineg: Лівобережна Україна trawslythreniad: Livoberezhna Ukrayina, Rwseg: Левобережная Украина Levoberezhnaya Ukraina, Pwyleg: Lewobrzeżna Ukraina) a leolwyd i ddwyrain canol Afon Dnieper. Ffiniodd â Rwsia Fawr (hen diriogaeth Uchel Ddugiaeth Moscfa) i'r gogledd, Wcráin Sloboda i'r dwyrain, Sich Zaporizhzhia a'r stepdiroedd gwyllt i'r de, a Glan Dde Wcráin ar ochr draw'r Dnieper i'r gorllewin. Bu ei diriogaeth yn cyfateb i oblastau Chernihiv a Poltava, gorllewin Oblast Sumy, dwyrain Oblast Kyiv a glan ddwyreiniol dinas Kyiv, a dwyrain Oblast Cherkasy yn Wcráin heddiw.

Glan Chwith Wcráin
Map o Lan Chwith Wcráin (melyn) o fewn ffiniau presennol Wcráin (gwyn).
MathUkrainian historical regions Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhanbarth y Dnieper (Wcráin) Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
GerllawAfon Dnieper Edit this on Wikidata

Yn sgil Cytundeb Pereiaslav (1654), daeth y Lan Chwith dan brotectoriaeth Tsaraeth Rwsia, statws a gadarnhawyd gan Gadoediad Andrusovo (1667), Cytundeb Bakhchesarai (1681), a'r "Heddwch Tragwyddol" rhwng Rwsia a'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd (1686).[1] Mewn dogfennau swyddogol Rwseg, o gyfnod diweddar y Tsaraeth yn niwedd yr 17g hyd at gwymp Ymerodraeth Rwsia yn nechrau'r 20g, mae'r enw "Rwsia Fach" yn cyfateb mwy neu lai i'r Lan Chwith.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. M. I︠U︡. Braĭchevs'kyĭ (1974). Annexation Or Reunification: Critical Notes on One Conception (yn Saesneg). Ukrainisches Institut für Bildungs-politik. t. 114.
  2. Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 319–21.