Rhanbarthau rygbi Cymru
Rhanbarthau rygbi Cymru yw timoedd proffesiynol rygbi'r undeb yng Nghymru.
Rhanbarthau Rygbi Cymru
Hanes golygu
Crewyd rygbi rhanbarthol Cymru yn 2003 gan sefydlu pump tîm. Fodd bynnag, diddymwyd y Rhyfelwyr Celtaidd flwyddyn yn ddiweddarach.[1]
Ar hyn o bryd, mae gan Cymru bedwar tîm rygbi rhanbarthol a sydd hefyd yn broffesiynol, sef:
Cynghrair golygu
Yn 2005, roedd rhanbarthau Cymru yn cystadlu yn y Gynghrair Geltaidd yn erbyn tîmau o'r Alban ac Iwerddon.[3]
Yn 2013, newidiwyd y gynghrair i'r Pro12 gan gynnwys timau o'r Eidal.[4]
Yn 2018 newidiodd y Pro12 i'r Pro14 wrth i ddau dîm o Dde Affrica, y Toyota Cheetahs a’r Southern Kings, ymuno â'r gynghrair.[5]
Ar gyfer cystadleuaeth 2021-22, newidiodd y Pro14 i fod y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (PRU) pan ymunodd tîmau De Affrica â'r gystadleuaeth.[6]
2023 golygu
Yn 2023, daeth rhanbarthau rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i gytundeb ariannol newydd tan 2029.[7]
Mae'r rhanbarthau yn cystadlu yn y Pencampwriaeth Rygbi Unedig ac ar ddiwedd tymor 2022/23 daeth Caerdydd yn 10fed a'r Dreigiau, Scarlets a'r Gweilch yn gorffen yn y pedwar safle gwaelod.[8]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Y system bresennol o redeg rhanbarthau rygbi Cymru "ddim yn gweithio"". Golwg360. 2022-05-05. Cyrchwyd 2024-01-22.
- ↑ "Rhanbarthau". Undeb Rygbi Cymru | Cymru a Rhanbarthau. Cyrchwyd 2024-01-22.
- ↑ "BBC Cymru'r Byd - Chwaraeon - Y Gynghrair Geltaidd". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Ail enwi Cynghrair Magners". Golwg360. 2011-06-08. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Cynghrair y Pro14 yn cychwyn heno". Golwg360. 2017-09-01. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Newid y Pro14 i'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig". BBC Cymru Fyw. 2021-06-15. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Rhanbarthau rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru yn dod i gytundeb ariannol newydd". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-23. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Tymor newydd y Bencampwraeith Rygbi Unedig yn 'dalcen caled' i'r rhanbarthau". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-23. Cyrchwyd 2024-01-23.