Super Rygbi Cymru
Cystadleuaeth rhwng clybiau rygbi undeb yng Nghymru yw Super Rygbi Cymru. Bydd yn cynnwys 10 tîm ac yn dechrau ym mis Medi 2024.
Bwriad y gystadleuaeth yw pontio’r bwlch i chwaraewyr sy’n symud rhwng yr Academïau a’r Rhanbarthau.[1]
Tymor cyntaf
golyguY 5 gêm agoriadol ar y 21 Medi 2024 fydd:
- Cwins Caerfyrddin v Abertawe
- Glyn Ebwy v Aberafan
- Casnewydd v Penybont
- Pont-y-pŵl v Llanymddyfri
- Rygbi Gogledd Cymru v Caerdydd[1]
Tlws a chwpan
golyguBydd timau yn cystadlu am Dlws Super Rygbi Cymru a Chwpan Super Rygbi Cymru. Bydd y Cwpan Super Rygbi yn cael ei gyflwyno yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda phedair rownd o gemau a rownd derfynol. Y fformat fydd dau bwll o bump clwb, gyda phob clwb yn chwarae dwy gêm gartref ac oddi cartref. Bydd enillydd pob pwll wedyn yn cyfarfod yn y rownd derfynol.[2]
Tarian yr Heriwr
golyguBydd Tarian yr Heriwr i'w hamddiffyn gan Llanymddyfri yn eu gemau gartref gan ddechrau gyda Llanymddyfri fel enillwyr y gynghrair flwyddyn diwethaf ac enllwyr eu gemau i gyd. [2]
Cap cyflog
golyguMae’r 10 clwb i gyd wedi arwyddo i system ‘cap cyflog’ a fydd yn eu galluogi i wario hyd at £150,000 ar garfan o 32 o chwaraewyr. Bydd eithriadau cap cyflog ar gyfer chwaraewyr rhanbarthol sy'n cael eu rhyddhau (o dan 18 ac o Academi Hŷn); chwaraewyr ar gontract deuol ac anafiadau.[2]
Bydd URC yn darparu £105,000 i bob clwb a fydd yn gorfod codi'r un swm eu hunain bob tymor ac hefyd bodloni set o ddisgwyliadau gweithredu gofynnol wrth redeg y clwb a’u tîm.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Byddwch yn barod - mae Super Rygbi Cymru yn cyrraedd fis Medi". Undeb Rygbi Cymru | Clwb a Cymuned. 2024-05-19. Cyrchwyd 2024-05-24.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 James, Ben (2024-05-19). "WRU announce new Super Rygbi Cymru competition as format and salary cap detailed". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-24.