Rhannu a rheoli
Strategaeth i ennill a chadw grym yw rhannu a rheoli trwy rannu grymoedd eraill yn rhannau llai sydd â llai o rym yn unigol, ac felly yn haws eu rheoli gan y grym sy'n gweithredu'r strategaeth. Caiff ei ddefnyddio yng nghysylltiadau rhyngwladol, yn yr arena wleidyddol, ac ym myd busnes.