Rhedyw

sant Cymreig o'r 5g

Sant o Gymru cynnar a gysylltir â Llanllyfni, Gwynedd, yw Rhedyw (Lladin Redicus) (bl. tua dechrau'r 5g efallai).

Rhedyw
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl6 Gorffennaf Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad

golygu

Ychydig a wyddys amdano. Cysegir eglwys Llanllyfni iddo. Dywedir i'r eglwys gyntaf ar y safle gael ei sefydlu yn y bedwaredd ganrif. Mae traddodiad i Redyw gael ei eni yn Arfon a dod yn swyddog pwysig yn eglwys Augustodunum (Autun heddiw) yng Ngâl.[1]

Llanllyfni

golygu

Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw yn Llanllyfni bob blwyddyn.[1]

Ceir Ffynnon Rhedyw ger yr eglwys, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio. Hefyd ceir megalith Eisteddfa Rhedyw ar Fynydd Llanllyfni.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Glyndŵr Publishing, 2000).