Rheilffordd Union Bryste a De Cymru

Roedd Rheilffordd Union Bryste a De Cymru yn rheilffordd rhwng Bryste a New Passage, ar lannau Môr Hafren. Aeth y rheilffordd o orsaf reilffordd Temple Meads, Bryste i orsaf reilffordd Pier New Passage, o le aeth fferi dros y dŵr i dde Cymru. Dechreuodd gwasanaethau ar 8 Medi 1863. Cynlluniwyd y rheilffordd gan Isambard Kingdom Brunel. Roedd un trac lled eang. Y gorsafoedd ar y rheilffordd oedd Pilning, Lawrence Hill, Heol Stapleton, Filton a Patchway. Agorwyd gorsafoedd Ashley Hill ym 1864 a Horfield ym 1927.[1]

Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1868; roeddent yb rhedeg y gwasanaethau i gyd ers y cychwyn. Newidiwyd lled y traciau i led safonol ym 1873.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Colin Maggs, Bristol Railway Panorama (Caerfaddon: Millstream, 1990)