Rheilffordd Ysgafn Ashover

Cynlluniwyd Rheilffordd Ysgafn Ashover i fod yn rheilffordd lled safonol[1]. Ond awgrymodd Cyrnol Holman Fred Stephens, peiriannydd y rheilffordd, lled o 2 droedfedd oherwydd argaeledd o ddefnydd addas ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.Caniatawyd adeiladu rheilffordd ar amod bod yno gwasanaeth ar gyfer teithwyr, yn ogystal â threnau nwyddau'r Cymni Clay Cross, perchnogion y rheilffordd.

Un o'r locomotifau Baldwin yn Ashover, tua 1948
Rheilffordd Ysgafn Ashover
uKBHFa
Ashover Butts
uBHF
Salter Lane
uBHF
Fallgate
uBHF
Dalebank
uBHF
Woolley
uBHF
Stratton
uBHF
Clay Lane
uBHF
Springfield
uBHF
Holmgate
uKBHFe
Clay Cross

Derbynnwyd dau gynnig i adeiladu'r rheilffordd, ond penderfynwyd buasai Cwmni Clay Cross yn adeiladu'r lein.[2] Agorwyd y lein ym 1924 i nwyddau ac i deithwyr ar 6 Ebrill 1925[3]. Daeth bron popeth anghenreiddiol i adeiladu'r rheilffordd oddi wrth Bwrdd Gweinyddiau Cyflenwad Rhyfel, gan gynnwys 4 locomotif Cwmni Baldwin, enwyd Peggy, Hummy, Joan a Guy, ar ôl plant Cadfridog Jackson, perchennog y Cwmni Clay Cross. Prynwyd un arall, a rhoddwyd yr enw 'Bridget'. Daeth y lein yn boblogaidd i deithwyr ar wyliau cyhoeddus, ond roedd mwyafrif y traffig yn nwyddau o chwareli'r cwmni Clay Cross yn Ashover, Fallgate a Milltown.. Gostwngwyd y nifer o deithwyr, a chaewyd y lein i iddynt ym 1936 ac yn gyfan gwbl ar 23 Hydref 1950. Cafwyd gwared o'r trac ym 1951, heblaw am ddarn bach yn Fallgate, lle cloddwyd fflẅorsbar. Goroesodd y darn yno hyd at 1969 [1].

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Tudalen Hanes ar wefan Cymdeithas Rheilffordd Ysgafn Ashover". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-18. Cyrchwyd 2015-08-19.
  2. "Gwefan narrowgaugepleasure". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-30. Cyrchwyd 2015-08-19.
  3. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Ashover ar wefan Cyrnol Stephens

Dolen Allanol

golygu