Cyrnol Holman Fred Stephens

Peiriannydd a rheolwr ar y rheilffordd oedd Holman Fred Stephens (31 Hydref 186823 Hydref 1931), ganwyd yn Llundain. Ei dad oedd Frederick George Stephens, aelod y Brawdolaeth Cyn-Raffaëlaidd.Ei dad bedydd oedd y celfydydd Holman Hunt. Daeth o'n rheolwr i 16 o reilffyrdd dros Loegr a Chymru, y mwyafrif wedi rhedeg yn ôl Deddf Rheilffyrdd Ysgafn, 1896, yn caniatáu rheilffyrdd rhatach yn ardaloedd gwledig. Dechreuodd ei yrfa yn brentis yn gweithdai Neasden y Rheilffordd Metropolitan. Daeth yn beiriannydd preswyl i Reilffordd Cranbrook a Paddock Wood, yn 22 oed. Erbyn hyn roedd ganddo swyddfa yn Tonbridge i reoli ei reilffyrdd.

Cyrnol Holman Fred Stephens
Ganwyd1868 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 1931 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpeiriannydd sifil, peiriannydd Edit this on Wikidata

Ei yrfa yn y fyddin

golygu

Daeth yn is-lefftenant yng Nghatrawd gyntaf y Peiriannyddion Brenhinol Sussex ym 1896. Daeth yn lefftenant yn 1897 a chapten ym 1898. Ricriwtiodd 600 o ddynion ar gyfer y Rhyfel Boer. Daeth yn uwchgapten dros 5 adran y Peiriannyddion Brenhinol yn Swydd Gaint Symudwyd i'r Fyddin Diriogaethol ym 1916 er mwyn rheoli ei reilffyrdd.

Bu farw'r cyrnol ar 23 Hydref 1931 yng Ngwesty Lord Warden, Dofr, lle oedd o'n byw.[1]

Ei reilffyrdd

golygu

Agorwyd y rheilffordd lled 2' 4” ym 1877. Roedd y rheilffordd yn llwyddiannus ar y cychwyn, ond caewyd Pwll Cwmni Tankerville Consuls, defnyddwr mwyaf y rheilffordd. Agorwyd chwarel yn ymyl Habberley gan Gwmni Ithfaen Ceiriog ym 1905, ac agorwyd lein i'r chwarel. Benthycwyd locomotif 'Sir Theodore o Dramffordd Dyffryn Ceiriog ond roedd o'n rhy eang. Prynwyd locomotif arall, 'Dennis'.

Roedd y rheilffordd yn llwyddiannus eto, hyd at 1909, ond daeth trafig yn llai yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cymerodd Cyrnol Stephens drosodd ym 1923, a phrynodd 2 locomotif Cwmni Baldwin oddi wrth Rheilffyrdd Ysgafn yr Adran Rhyfel.[2]

Agorwyd y rheilffordd led safonol, 12 milltir o hyd, o Tenterden i cyffordd efo Rheilffordd De Ddwyrain a Chatham yn Robertsbridge. Estynnwyd y lein i orsaf Tenterden (Town) ac ymlaen at cyffordd arall efo Rheilffordd De Ddwyrain a Chatham yn Headcorn ym 1905. Ailenwyd y rheilffordd yn Rheilffordd Swydd Gaint a Dwyrain Sussex. Roedd Cyrnol Stephens yn beiriannydd, oruwchwylwr a rheolwr cyfarwyddwr y rheilffordd. Caewyd y lein gan Rheilffyrdd Brydeinig ym 1961. Ailagorwyd yn rheilffordd treftadaeth ym 1974.[3]

 
Beyer Garrett ar Reilffordd Eryri
 
Locomotif Fairlie'n agosáu Tan y Bwlch, Rheilffordd Ffestiniog

Appwyntiwyd y Cyrnol peiriannydd rhan amser i'r 2 reilffyrdd ym 1923. Daeth yn gadeirydd a chyfarwyddwr rheolwr yn 1924. Pan aeth Rheilffordd Eryri i dderbynyddiaeth ym 1927, daeth o'n dderbynnydd, a symudwyd swyddfeydd y 2 gwmni i Tonbridge yn Swydd Gaint[4].

Roedd y lein 21 milltir o hyd, agorwyd yn raddol rhwng 1859 a 1891 i gludo glo. Dilynodd y lein i raddau helaeth cwrs camlas, adeiladwyd yn gynharach gan Thomas Kymer. Cafodd y reilffordd Porthladd ym Mhorth Tywyn hefyd. Cyflogwyd y Cyrnol fel ymgynghorydd rhwng 1908 a 1913 i'w hailadeiladu i gludo teithwyr.[5]

Roedd o'n beiriannydd i'r lein, ac awgrymodd led o 2 droedfedd oherwydd argaeledd o ddefnydd addas ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y lein yn eiddo Cwmni Clay Cross, a chariwyd yn bennaf balast ithfaen ar gyfer rheilffyrdd. Agorwyd y lein ym 1924 i nwyddau ac i deithwyr ym 1925. Caewyd y lein i deithwyr ym 1936 ac yn gyfan gwbl ym 1950[6].

Agorwyd Rheilffordd Fwnol Dwyrain Cernyw (led 3' 6”) ym Mai 1872 o Kelly Bray i Cei Calstock. Ym 1890, agorwyd Rheilffordd Plymouth Devonport a Chyffordd Deheuol lein o Devonport i Lydford efo cysylltiad i Lundain, a phrynasant Rheilffordd Fwnol Dwyrain Cernyw ym 1891, yn bwriadu creu cysylltiad rhwng Kelly Bray a'r brif lein, ond nad oedd cyllid tan 1900. Bwriadwyd adeiladu pont 120 troedfedd o uchder, ac wedyn newid Rheilffordd Fwnol Dwyrain Cernyw i led safonol.

Apwyntwyd Cyrnol Stephens yn beiriannydd ymgynghorol, yn rhoi cyngor am adeiladwaith, newid lled, locomotifau, cerbydau a signalau.

Agorwyd y lein ar 2 Mawrth, 1908 a daeth Stephens yn beiriannydd a rheolwr, yn cael ei dalu £250 y blwyddyn.[7]

Adeiladwyd y lein rhwng 1890 a 1894, ac roedd y Cyrnol ei pheirianydd. Aeth y lein o Paddock Wood i Hawkhurst yn Swydd Gaint. Agorwyd y lein ym 1893, a chaewyd ym 1961..[8]

Daeth y syniad gwreiddiol ym 1909, i greu rhwydwaith o reilffyrdd rhwng o leiaf 9 glofa i borthladd newydd Richborough Port. Caewyd mwyafrif y glofeydd heb ddechrau darparu glo – goroesodd dim ond 1 ohonynt - , ond roedd Richborough Port yn fethiant. Roedd Stephens peiriannydd y lein o'r dechrau, ac yn hwyrach cyfarwyddwr a rheolwr hyd at ei farwolaeth ym 1931.[9]

Adeiladwyd y rheilffordd 3 milltir, cynllunwyd gan Cyrnol Stephens, ym 1920, ar gyfer Cwmni Haearnfaen Swydd Rydychen. Cauwyd y lein ar ôl 5 mlynedd; roedd yr haearn i gyd wedi cael ei gloddi. Dymchwelwyd y lein ym 1947.[10]

Ailadeiladwyd lein 6 milltir, lled 3 troedfedd, Tramffordd Fynol Torrington a Marland i fod yn lein 20 milltir, lled safonol, rhwng Torrington a Chyffordd Halwill. Cyrnol Stephens oedd ei Pheiriannydd. Agorwyd y lein ym 1925, o dan rheol y Rheilffordd Ddeheuol. Caewyd y lein i deithwyr ym 1965 ac yn gyfan gwbl ym 1982.[11]

Aeth y rheilffordd dros Ynys Sheppey o Leysdown i Queenborough Lle oedd cysylltiad efo Rheilffordd De Ddwyrain a Chatham. Cyrnol Stephens oedd y peiriannydd. Agorwyd y lein ym 1901, a chaewyd ar 4 Rhagfyr 1950.[12]

Agorwyd 18 milltir o Reilffordd y Potteries, Amwythig a Gogledd Cymru rhwng Amwythig a Llanymynech ar 16 Awst, 1866. Caewyd y lein ar 22 Mehefin 1880. Ailagorodd Cyrnol Stephens y lein ym 1911, efo'i henw bresennol.[13]

Agorwyd rheilffordd 14 milltir o hyd ym 1907. Daeth Cyrnol Stephens yn Rheolwr Traffig ym 1911, ac wedyn Peiriannydd, Goruwchwilwr Locomotifau a Rheolwr Cyffredin. Doedd y rheilffordd ddim yn llwyddiannus, a chauwyd y lein ym 1940.[14]

Roedd y rheilffordd yn un o'r olaf cynlluniwyd gan Cyrnol Stephens. Bodolodd mwyafrif y seidins yn barod, yn rhan y rhwydwaith o ffatrioedd yn ardal y dociau, ond oherwydd problemau prynu tir doedd dim cysylltiad â phrif lein y Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin tan 1920. Wedyn roedd rhaid cryfhau cledrau'r seidins ar gyfer cerbydau trymach. Agorwyd y seidins ym 1922. Defnyddir y lein hyd at heddiw.[15]

Roedd Cyrnol Stephens Peiriannydd a Goruwchwilwr i'r tramffordd. Roedd yn lein led 3 troedfedd, a milltir a thri chwarter o hyd. Adeiladwyd y tramffordd rhwng Ionawr a Gorffennaf ym 1895, a chaewyd y lein ym 1939.[16].

Agorwyd y Hundred of Manhood and Selsey Tramway, rhwng Chichester a Selsey ym 1897. Roedd difrod sylweddol ym 1911 oherwydd llifogydd dyfrifol. Fel tair rheilffordd arall Cyrnol Stephens, defnyddiwyd bysiau efo olwynion rheilffordd. Caewyd y tramffordd ym 1935, yn wynebu cystadleuaeth gan fysiau.[17]

Amgueddfa Cyrnol Stephens

golygu

Mae amgueddfa iddo fo yn ymyl Gorsaf reilffordd Tenterden (Town) ar Rheilffordd Swydd Gaint a Dwyrain Sussex[18].

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Cyrnol Stephens
  2. Tudalen Rheilffordd Ardal Snailbeach ar wefan Cyrnol Stephens
  3. Tudalen Rheilffordd Dyffryn Rother ar wefan Cyrnol Stephens
  4. Tudalen Rheilffordd Ffestiniog ar wefan Cyrnol Stephens
  5. Tudalen Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth ar wefan Cyrnol Stephens
  6. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Ashover ar wefan Cyrnol Stephens
  7. "Tudalen Rheilffordd Ysgafn Bere Alston a Calstock ar wefan Cyrnol Stephens". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-06-21.
  8. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Cranbrook a Paddocks Wood ar wefan Cyrnol Stephens
  9. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Dwyrain Caint ar wefan Cyrnol Stephens
  10. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Edge Hill ar wefan Cyrnol Stephens
  11. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Gogledd Ddyfnaint a Chyffordd Cernyw ar wefan Cyrnol Stephens
  12. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Sheppey ar wefan Cyrnol Stephens
  13. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn ar wefan Cyrnol Stephens
  14. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Weston, Clevedon a Portishead ar wefan Cyrnol Stephens
  15. Tudalen Rheilffordd Ysgafn Weston Point ar wefan Cyrnol Stephens
  16. Tudalen Tramffordd Rye a Camber ar wefan Cyrnol Stephens
  17. Tudalen Tramffordd Selsey ar wefan Cyrnol Stephens
  18. "Gwefan Amgueddfa Cyrnol Stephens". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-01. Cyrchwyd 2015-06-21.

Dolenni allanol

golygu