Rheilffordd Zig Zag
Mae’r Rheilffordd Zig Zag yn Rheilffordd Dreftadaeth yn Awstralia, ger Lithgow yn Ne Cymru Newydd. Mae’r rheilffordd yn defnyddio ‘zig zags’ er mwyn dringo llethrau gorllewinol y Mynyddoedd Glas. Disodlwyd y rheilffordd fel rhan o o reilffordd y dalaith gan dwnel trwy’r mynyddoedd, ond ail-agorwyd y rheilffordd fel rheilffordd dreftadaeth ym mis Hydref 1975 gan gwmni cydweithiol, sef Zig Zag Railway Co-op. Ltd
Caewyd y rheilffordd yn 2012 oherwydd problemau gweinyddol, ond cyn ail-agoriad y rheilffordd, difrodwyd y rheilffordd gan dân yn 2013 ac wedyn gan lifogydd. Roedd tân arall yn 2015 ac dydy’r rheilffordd ddim wedi ail-agor hyd yn hyn.[1][2][3]
Locomotifau
golyguLocomotifau stêm
golyguRhif ac enw | Dsgrifiad | Statws | Lliw |
---|---|---|---|
218 The Yank | Dosbarth AC16 Rheilffordd Queensland 2-8-2 | Gweithredol. Adferwyd yn 2017 | Du |
934 | Dosbarth C17 Rheilffordd Queensland 4-8-0 | Disgwyl am adferiad. | Coch |
966 City of Rockhampton | Dosbarth C17 Rheilffordd Queensland 4-8-0 | Arddangosir | Du |
1046 | Dosbarth DD17 Rheilffordd Queensland 4-6-4T | Datgymalwyd; mewn storfa. | Glas |
1047 | Dosbarth DD17 Rheilffordd Queensland 4-6-4T | Disgwyl am atgywiriad. | Gwyrdd |
1049 Stormin' Normin | Dosbarth DD17 Rheilffordd Queensland 4-6-4T | Adferwyd gan Goleg Hyfforddi Dyffryn Hunte, Penrith ym 1994; yn disgwyl am atgywiriad. | Glas |
1072 City of Lithgow | Dosbarth BB18¼ Rheilffordd Queensland 4-6-2 | Adferir | Du |
402 | Garratt 4-8-2+2-8-4 Dosbarth 400 Rheilffordd De Awstralia 4-6-4T | Arddangosir | Gwyrdd |
Locomotifau diesel
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Statws |
---|---|---|
1003 | Dosbarth 10 Rheilffordd Bae Emu | Prynwyd i fod yn ffynhonnell sbarion i rif 1004, Mawrth 2001. |
1004 “Emu Bay” | Dosbarth 10 Rheilffordd Bae Emu | Gweithredol. Prynwyd Mawrth 2001 |
5802 | Mwyngloddiau Mynydd Isa | Gweithredol |
Cerbydau diesel
golyguRhif | Disgrifiad | Statws |
---|---|---|
2006, 2011, 2051 | Dosbarth 2000 Rheilffordd Queensland | Atgyweirir |
2020, 2008 | Dosbarth 2000 Rheilffordd Queensland | Disgwyl am atgyweiriad |
2016, 2055 | Dosbarth 2000 Rheilffordd Queensland | Llosgwyd yn 2013 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Holliday, Rebekah. "Fire tears through iconic Zig Zag Railway". Sydney Morning Herald. Cyrchwyd 19 Hydref 2013.
- ↑ Zig Zag Railway Zig Zag Railway adalwyd 13 Ionawr 2015
- ↑ Zig Zag Railway battling adversity to finally get itself back on track Blue Mountains gazette 20 Ionawr 2015