Rheilffordd rhac a phiniwn

Defnyddir y term rheilffordd rhac a phiniwn am reilffordd sy'n defnyddio trydydd rheilen rhwng y ddwy reilen arferol, gyda "rhaciau" arni y gall "piniwn" ar y trên ei hun fachu arnynt, fel system o ddannedd yn bachu yn ei gilydd. Mae hyn yn galluogi'r trên i esgyn llethrau serth, ac felly defnyddir y system fel rheol ar gyfer rheilffyrdd mynydd. Yr unig esiampl yng Nghymru (a'r unig un gyhoeddus ym Mhrydain) yw Rheilffordd yr Wyddfa.

Trac rheilffordd rhac a phiniwn yn defnyddio system Lamella.

Y rheilffordd gyntaf o'r math yma oedd Rheilffordd Middleton, rhwng Middleton a Leeds yn Lloegr, a agorwyd yn 1812. Y rheilffordd fynydd gyntaf oedd y Mount Washington Cog Railway yn nhalaith New Hampshire yn yr Unol Daleithiau, a agorodd yn 1868. Y gyntaf yn Ewrop oedd y Vitznau-Rigi-Bahn i gopa Mynydd Rigi yn y Swistir, a agorodd yn 1871.

Ceir nifer o wahanol systemau rhac a phiniwn. Y mwyaf cyffredin yw system Abt sef yr un a ddefnyddir gan Reilffordd yr Wyddfa. Ceir hefyd system Marsh, system Riggenbach a system Strub.