Mae Rheilffordd yr Wyddfa (Saesneg: Snowdon Mountain Railway) yn rheilffordd fach sy'n rhedeg ar gledrau cul o bentref Llanberis i ben yr Wyddfa, yn Eryri, Gwynedd, gogledd-orllewin Cymru. Hi yw'r unig reilffordd rhac a phiniwn gyhoeddus yng ngwledydd Prydain. Mae'n un o brif atyniadau twristaidd Gwynedd a Chymru ac yn mesur 4.7 milltir (7.6 km).

Rheilffordd yr Wyddfa
Hanner ffordd i'r copa
Trosolwg
Math Rac-a-ffiniwn; rheilffordd fynyddig
Lleol Gwynedd
Termini Llanberis
Yr Wyddfa
O ddydd i ddydd
Agorwyd 1896
Perchennog Heritage Great Britain plc[1]
O ddydd i ddydd Heritage Great Britain plc
Technegol
Hyd y linell 4.7 mi (7.6 km)
Sawl trac? Trac sengl gyda llefydd pasio
Cul neu safonol? 800 mm (2 ft 7 12 in)
Radiws y tro (lleiafswm) (?)
Sustem rac Rheilffordd Rac[2]
Map
Scale map of the route
Tren yn dynesu at y copa
Snowdon Mountain Railway steep descent.jpg

HanesGolygu

Cwblhawyd rheilffordd led safonol rhwng Bangor a Llanberis ym 1869, a ffurfiwyd Cwmni Cyfyngedig Tramffordd Mynydd yr Wyddfa a Gwestai. Adeiladwyd y rheilffordd gan 150 o dynion, dros gyfnod o 14 mis rhwnf Rhagfyr 1894 a Chwefror 1896.. Mabwysiadwyd rhac a phiniwn Abt, dyfeisiwyd gan Carl Roman Abt, peiriannydd o'r Swistir, a phrynwyd 4 locomotif stêm Winterthur yn y Swistir.[3]

Agorwyd y lein ar 6 Ebrill 1896, ond roedd yn ddamwain ddifrifol a bu farw un person. Ailagorwyd y lein ar 9 Ebrill 1897.

Y copaGolygu

Wrth ymyl yr orsaf uchaf ger copa'r Wyddfa, roedd adeilad caffi, a ddisgrifiwyd gan y Tywysog Charles fel "slym uchaf Prydain". [1] Codwyd adeilad newydd i gymryd ei le yn ddiweddar. Perchnogion y rheilffordd yw Heritage Great Britain plc,[4] Rhwng Tachwedd a chanol Mawrth, mae'r rheilffordd wedi ei gau.

CyfeiriadauGolygu

Dolenni allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Rheilffordd yr Wyddfa
 
Llanberis
 
Rhaeadr (closed)
 
Hebron
 
Hanner ffordd
 
Arhosfa'r Creigiau
 
Clogwyn
 
Y Copa
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.