Rheilffordd ysgafn Sheppey

Aeth Rheilffordd ysgafn Sheppey o Leysdown i Queenborough ar Ynys Sheppey yn Swydd Gaent. Roedd y lein yn 8 milltir o hyd a roedd yn cysylltiad efo Rheilffordd De Ddwyrain a Chatham. Roedd Cyrnol Holman Fred Stephens peiriannydd i'r rheilffordd.[1]

Rheilffordd ysgafn Sheppey
uKHSTa
Gorsaf reilffordd Queenborough
uHST
Gorsaf reilffordd Dwyrain Sheerness
uHST
Gorsaf reilffordd Dwyrain Minster ar Fôr
uHST
Gorsaf reilffordd Minster ar Fôr
uHST
Arhosfa Brambledown
uHST
Gorsaf reilffordd Eastchurch
uHST
Arhosfa Ffordd Harty
uKHSTe
Gorsaf reilffordd Leysdown

Agorwyd y rheilffordd ar 1 Awst 1901.[2] Arbrofodd y rheilffordd efo cerbydau petrol ym 1904 ond doedd gan neb ar Ynys Sheppey'r sgiliau angenrheidiol i gynnal peiriannau petrol. Prynwyd 2 gerbyd stêm – yn cynnwys locomotif stêm a cherbyd mewn un uned - ym 1905, a 6 arall ym 1906. Defnyddiwyd cerbydau stêm hyd at 1914, Wedyn sgrapiwyd yr unedau a defnyddiwyd y cerbydau efo locomotifau stêm confensiynol, dosbarth 'P' 0-6-0. Prynwyd locomotif dosbarth 'Terrier' rhif 54, 'Waddon' o Rheilffordd Llundain Brighton ac Arfordir De ar gyfer trenau nwyddau[1] yn dechrau ei waith ar 12 Chwefror 1905.

Agorwyd Arhosfa Ffordd Harty ac Arhosfa Brambledown ym Mawrth 1905.

Caewyd y rheilffordd ar 4 Rhagfyr 1950.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Tudalen Rheilffordd Ysgafn Sheppey ar wefan Cyrnol Stephens
  2. "Gwefan sheppeywebsite". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-07. Cyrchwyd 2016-04-14.